skip to Main Content

Oasis Caerdydd

60

O gyfranogwyr mewn 3 flynedd

10

O genhedloedd ar draws y byd

Mae gweld ein cleientiaid yn hapus ac yn egnïol mewn amgylchedd gwahanol, yn cwrdd â phobl â gwên ar eu hwyneb, a rhai yn chwerthin am y tro cyntaf yn fraint. Rydym yn teimlo’n ffodus iawn i fod yn rhan o‘r Dyn Gwyrdd.

Reynette Roberts MBE, Cyfarwyddwr Oasis Caerdydd

Mae Oasis Caerdydd yn elusen anhygoel sy’n helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i integreiddio yn eu cymunedau newydd. Maent yn gwneud hyn trwy gynnal gwahanol weithdai a sesiynau grŵp, dosbarthiadau Saesneg, celf a chwaraeon, grwpiau cynghori, fforymau eiriolaeth, mae’r rhestr yn hirfaith. Maent hefyd yn gwybod mai’r ffordd orau o ddathlu gwahanol ddiwylliannau a dod â phobl ynghyd yw o gwmpas y bwrdd, i fwyta bwyd blasus.

Mae Oasis yn ymuno â ni ar gyfer yr Ŵyl gyda grŵp o fuddiolwyr er mwyn twf personol a phroffesiynol. Mae ganddynt stondin fwyd am ddim i arddangos eu bwyd cartref, sgyrsiau cynnal i rannu eu storïau a maent yn derbyn hyfforddiant proffesiynol o fewn y tîm stiwardio – https://www.canva.com/design/DAE7s-2HE94/watch

Ariannwyd y prosiect gan

Back To Top