skip to Main Content

Noddwyr

Mae Noddwyr y Dyn Gwyrdd yn grŵp arbennig o bobl sy’n rhannu ein gweledigaeth ac eisiau ein helpu i wneud i bethau da ddigwydd. Gan ein bod yn elusen fach, mae cefnogaeth ein Noddwyr yn gwneud gwahaniaeth anferth ac felly rydym ni’n rhoi’r profiad gorau o’r Dyn Gwyrdd iddyn nhw:

  • Mynediad cynnar i docynnau o flaen llaw
  • Taith arbennig o gwmpas yr ardaloedd a gefnogir gan Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd gyda’r curadur ardal a / neu un o’r artistiaid
  • Gwahoddiad i’n parti diod blynyddol, gwahoddedigion yn unig, i gwrdd â’r bobl sy’n elwa o’ch cefnogaeth a chefnogwyr tebyg
  • Mynediad i’n bar cefn llwyfan
  • Gwahoddiad i Green Man Rising Final perfformiad byw
  • Tocynnau i rownd derfynol cystadleuaeth Green Man Rising yn Llundain
  • Cwrdd â Fiona Stewart, ein Rheolwr Gyfarwyddwr, am sgwrs breifat dros goctêls yn yr ŵyl
  • Bag o bethau da i gefnogwyr gyda bagiau tote, rhaglen a nwyddau y Dyn Gwyrdd
  • Eich crys-t criw eich hun
  • Eich enw mewn goleuadau ar lwyfannau ar-lein Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd

Siaradwch â ni am fod yn Noddwr: joana@greenmantrust.org.uk

Back To Top