Amdanom ni
DATBLYGU’R CELFYDDYDAU
3000+ o artistiaid newydd yn cael eu harddangos
HYFFORDDIANT
2000+ o bobl yn ymwneud â hyfforddiant
ENNYN DIDDORDEB MEWN GWYDDONIAETH
200+ o brosiectau gwyddoniaeth yn cychwyn
NEWID CADARNHAOL MEWN CYMUDEDAU YNG NGHYMRU
27 o grantiau ar gyfer prosiectau cymunedol
Mae’r Dyn Gwyrdd yn ŵyl Gymreig s’yn ymwneud â chyfleoedd – o gefnogi artistiaid sy’n dod i’r amlwg a chynnig hyfforddiant byd-eang i ennyn diddordeb pobl mewn gwyddoniaeth ac ysbrydoli newid cadarnhaol.
Rydyn ni’n hoffi gwneud i bethau da ddigwydd, felly crewyd Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd i wireddu’r cyfleoedd hyn, yn yr Ŵyl a thrwy gydol y flwyddyn.
Fiona Stewart
Mae’r egni cadarnhaol sy’n cael ei greu gan bobl sy’n ymgysylltu’n hapus gyda’i gilydd yn y Dyn Gwyrdd, yn gymhelliant i ledaenu’r pethau da hynny hyd yn oed ymhellach. Crëwyd Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd i wneud hynny, ac rwy’n falch iawn o weld y cyfleoedd positif sydd wedi dod i gymaint o bobl ac yn ddiolchgar iawn i’r nifer o unigolion a sefydliadau sydd wedi helpu i wireddu hynny.
Fiona Stewart, Sefydlydd Ymddiriedolaeth Y Dyn Gwyrdd
Yn 2013, sefydlodd Stewart Ymddiriedolaeth Y Dyn Gwyrdd i gefnogi datblygiad y celfyddydau, ymgysylltu â gwyddoniaeth a chreu cyfleoedd i bobl o dan anfantais yng nghymunedau Cymru. Cefnogwyd prosiectau tebyg gan ŵyl y Dyn Gwyrdd am flynyddoedd lawer ond roeddent wedi cyrraedd pwynt lle’r oedd angen eu lle eu hunain i ffynnu ymhellach. Ers hynny mae’r nifer o filoedd o bobl wedi cael cefnogaeth yr ymddiriedolaeth ac mae’r ‘pethau da’ yn ymledu drwy’r amser. Mae Stewart wedi gweithio ym mhob rhan o’r diwydiant adloniant a cherddoriaeth ers 30 mlynedd. Fe’i rhestrir fel rhif 24 yn rhestr Women’s Hour Music Power y BBC. Yn 2013 hi oedd y ddynes gyntaf i dderbyn yr anrhydedd mwyaf ym myd gwyliau drwy wobr ‘Cyfraniad Anhepgor i Wyliau’r DU,’ a ddyfarnwyd yn flaenorol i John Peel, Peter Gabriel a Michael Eavis. Hi yw’r unig fenyw yn y DU i gael perchenogaeth â rheolaeth dros ŵyl gerddoriaeth annibynnol fawr. Mae Stewart yn Gyfarwyddwr Bwrdd Gweithredol Cymdeithas Hyrwyddwyr Cyngerdd (CPA) – y corff lobïo blaenllaw sy’n cynrychioli adloniant cerddoriaeth fyw yn y DU.
Joanna Owen
Daeth Joanna yn Ymddiriedolwr ym mis Mai 2018. Mae hi’n byw yn Llundain ond fe’i magwyd ger Bryste ac mae ganddi atgofion melys o ymweld â Chymru fel plentyn. A gyda’i chyfenw Owen, mae ganddi berthynas gref â Chymru. Gwasanaethodd Joanna fel Cadeirydd y Gwasanaeth Cyfraith Anabledd am 10 mlynedd hyd 2015. Mae’n gweithio fel cyfreithiwr yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac mae’n angerddol am gyfiawnder cymdeithasol. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn y gwaith y mae’r Ymddiriedolaeth yn ei wneud i fentora a hyfforddi pobl ifanc creadigol yn y celfyddydau a’r gwaith gyda grwpiau sy’n agored i niwed fel Oasis Caerdydd a Byddin yr Iachawdwriaeth, gan fod y rhain yn achosion agos iawn at ei chalon. Mae Joanna yn ddefnyddiwr cadair olwyn ac mae’n cefnogi enw da rhagorol y Dyn Gwyrdd am ddarpariaeth mynediad i bobl anabl – rheswm arall pam nad oedd hi wedi petruso bod yn rhan o Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd
Natasha Hale
Yn 2017, penodwyd Natasha yn Brif Swyddog Gweithredu Bad Wolf Productions a Stiwdio Blaidd Cymru. Mae eu prosiectau’n cynnwys A Discovery of Witches ar gyfer Sky One a His Dark Materials ar gyfer y BBC. Arweiniodd Natasha ar greu Stiwdio Blaidd Cymru o’r cychwyn cyntaf nes ei fod yn gweithredu’n llawn. Cyn hynny, sefydlodd Natasha adran gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer y Diwydiannau Creadigol yn 2010. Dros y chwe blynedd nesaf, bu’n goruchwylio strategaeth i wneud Cymru yn ganolfan fyd-eang ar gyfer drama deledu proffil uchel.
Ian Fielder
Ian yw Cyfarwyddwr Gweithrediadau Plantpot Cyf ac mae wedi bod yn cynnal digwyddiadau ers dros 20 mlynedd. Mae’n un o’r bobl allweddol yn natblygiad 2 o wyliau annibynnol mwyaf enwog a phoblogaidd y DU – y Big Chill a’n Dyn Gwyrdd ni. Yn un o Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd ers y cychwyn cyntaf, mae Ian yn dod â chyfoeth o arbenigedd mewn rheoli a chynhyrchu digwyddiadau ar raddfa fawr sydd wedi bod yn allweddol wrth sefydlu rhaglenni’r Ymddiriedolaeth. Wedi treulio rhan fwyaf o’i fywyd yn dod â chynulleidfaoedd a’r celfyddydau ynghyd, mae’n frwdfrydig am weld y genhedlaeth nesaf o artistiaid yn tyfu’n sêr yfory ac yn ymfalchïo yng ngwaddol ein rhaglenni ar gymaint o artistiaid eisoes. Fel eiriolwr a chrëwr cyfleoedd lle gall pobl ifanc hyfforddi ac anelu at yrfa yn y diwydiannau creadigol, mae Ian hefyd wedi mentora llawer o’n rhaglenni hyfforddi dros y blynyddoedd ochr yn ochr â’i gefnogaeth fel Ymddiriedolwr.
Daeth yr actor a chyfansoddwr caneuon o Gaerfyrddin Iwan Rheon yn Llysgennad i ni yn 2017. Mae rôl Iwan yn golygu ei fod yn ymwneud â phrosiectau amrywiol a niferol Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd, gan gynnwys datblygu’r celfyddydau, hyfforddiant a datblygu cymunedau Cymru.
Mae Iwan yn adnabyddus am ei berfformiad yn y ffenomen byd-eang Game of Thrones yn ogystal â Misfits, Inhumans, Riviera a’i ymddangosiad West End diweddar yn nrama arobryn Dawn King, Foxfinder. Yn 2015, rhyddhaodd Iwan ei albwm gyntaf, Dinard, yn dilyn cyfres o EPau a dderbyniwyd yn dda – Tongue Tied, Changing Times, a Bang!
Does dim byd tebyg iddo [y Dyn Gwyrdd] yn y byd. Yn anarferol mae’n defnyddio ei lwyddiant i helpu pobl; o ddatblygu prosiectau cymunedol a chwaraeon, arddangos artistiaid, hyfforddi pobl o dan anfantais, ymgysylltu â gwyddoniaeth i gefnogi busnesau bach Cymreig. Mae’r ethos o greu cyfleoedd yn rhedeg drwy galon y Dyn Gwyrdd.
Iwan Rheon, Llysgennad Ymddiriedolaeth Y Dyn Gwyrdd
Mae Noddwyr Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd yn grŵp arbennig o bobl sy’n ein helpu i wneud pethau da i ddigwydd, diolch anferthol i:
- David & Karen Broadway
- Chris Nott
- Colin Riordan & Charlie Robinson
- Lady Victoria Conran
Hoffai Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd ddiolch yn fawr i’r holl bobl gwych sydd wedi gwneud rhoddion, ariannu ein prosiectau a chefnogi ein gweithgareddau. Diolch i ŵyl y Dyn Gwyrdd, Cyngor Celfyddydau Cymru, Chyngor Celfyddydau Lloegr, PRS Foundation, Ashley Family Foundation a Ymddiried – Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig y mae eu cefnogaeth yn gwneud ein gwaith yn bosibl.