skip to Main Content

Coleg Merthyr

53

O fyfyrwyr drwy’r rhaglen

9

Wedi’u cyflogi yn y diwydiannau

39

O fyfyrwyr wedi cyflawni 70%+ mewn asesiadau terfynol

Yn dathlu’r degawd yn 2019, daw ein prosiect mewn partneriaeth â Choleg Merthyr Tudful â myfyrwyr s’yn gwneud eu Gradd Sylfaen mewn Ffilm a Fideo i’r Dyn Gwyrdd am leoliad gwaith fel rhan o’u hasesiad cwrs. Bob blwyddyn maent yn ymuno â’r criw AV i ffilmio a golygu ffrwd byw llwyfan Allan o’r Byd Hwn. Mae myfyrwyr yn cael eu mentora gan y goreuon o’r byd diwydiant adloniant sy’n gweithio ar deithiau mawr o gwmpas y byd ac mewn lleoliadau byd-enwog. Mae’n gyfle unigryw i feithrin cynnydd a datblygiad personol, gan wella sgiliau technegol myfyrwyr wrth iddynt ennill profiad ymarferol o gynhyrchu byw ar raddfa fawr.

Mae ymagwedd y Dyn Gwyrdd at weithio gyda’n myfyrwyr bob amser wedi bod yn rhagweithiol ac mae’n darparu amgylchedd heriol ond diogel, lle gallant ddysgu sgiliau go iawn ochr yn ochr â thîm o unigolion ymroddedig, cefnogol sy’n rhoi eu hamser o’u gwirfodd i’w cefnogi.

Richard Davies, Darlithydd Ffilm Yng Ngholeg Merthyr Tudful

Caiff eu ‘taith Dyn Gwyrdd’ ei gwneud yn ffilm fer gyda’r grŵp yn ei ffilmio a’i golygu ar y safle ac mae’r fersiwn derfynol yn cael ei harddangos ym mhabell Cinedrome yn ystod y penwythnos. Gallwch wylio ffilmiau o wyliau blaenorol isod:

.

Diolch!

Back To Top