skip to Main Content

Y Celfyddydau Gweledol

29

Comisiynau

80+

Artist newydd wedi’u cefnogi

Dechreuodd y Celfyddydau Gweledol yn y Dyn Gwyrdd yn 2016 i roi gofod newydd i osodiadau celf yn yr ŵyl gerddorol – gan ddod â gwaith celf amgylchynol i mewn i lefydd annisgwyl a chwestiynu yr hyn mae celf cyhoeddus yn ei olygu mewn gwirionedd.

Mae Rhaglen Celfyddydau Gweledol Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd yn rhoi’r cyfle i artistiaid ddysgu sut mae datblygu gwaith ar raddfa fawr mewn lleoliad awyr agored a fydd yn cael ei weld a’i gyd-adweithio gan miloedd o bobl. Nid oes llawer o gyfleoedd eraill yn cynnig hyn.

Antonio Roberts, 2016 artist cyffredinol

Mae’r rhaglen yn cynnig preswyliaeth a chomisiwn cyfunol dros gyfnod o 18 mis ar gyfer artistiaid sy’n newydd yn eu gyrfa. Mae’r dull hwn yn rhoi amser, cyllideb ac amgylchedd creadigol i artistiaid i gael profiad technegol a sgiliau cynhyrchu wrth iddynt ddatblygu syniadau ac arferion artistig newydd. Y Dyn Gwyrdd yw’r unig ŵyl yn y DU sydd â rhaglen sy’n gweithio yn y modd hwn.

Rwy’n credu bod rhaglen y Dyn Gwyrdd yn llawer mwy uchelgeisiol a beirinadol nag unrhyw gelf gŵyl arall.

Megan Broadmeadow, artist wedi’i chomisiynu 2018
Sean 1 RESIZED

Cyllidwyr:

Back To Top