skip to Main Content

Amdanom ni

DATBLYGU’R CELFYDDYDAU

3000+ o artistiaid newydd yn cael eu harddangos

HYFFORDDIANT

2000+ o bobl yn ymwneud â hyfforddiant

ENNYN DIDDORDEB MEWN GWYDDONIAETH

200+ o brosiectau gwyddoniaeth yn cychwyn

NEWID CADARNHAOL MEWN CYMUDEDAU YNG NGHYMRU

27 o grantiau ar gyfer prosiectau cymunedol

Mae’r Dyn Gwyrdd yn ŵyl Gymreig s’yn ymwneud â chyfleoedd – o gefnogi artistiaid sy’n dod i’r amlwg a chynnig hyfforddiant byd-eang i ennyn diddordeb pobl mewn gwyddoniaeth ac ysbrydoli newid cadarnhaol.

Rydyn ni’n hoffi gwneud i bethau da ddigwydd, felly crewyd Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd i wireddu’r cyfleoedd hyn, yn yr Ŵyl a thrwy gydol y flwyddyn.

Fiona Stewart

Mae’r egni cadarnhaol sy’n cael ei greu gan bobl sy’n ymgysylltu’n hapus gyda’i gilydd yn y Dyn Gwyrdd, yn gymhelliant i ledaenu’r pethau da hynny hyd yn oed ymhellach. Crëwyd Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd i wneud hynny, ac rwy’n falch iawn o weld y cyfleoedd positif sydd wedi dod i gymaint o bobl ac yn ddiolchgar iawn i’r nifer o unigolion a sefydliadau sydd wedi helpu i wireddu hynny.

Fiona Stewart, Sefydlydd Ymddiriedolaeth Y Dyn Gwyrdd

Yn 2013, sefydlodd Stewart Ymddiriedolaeth Y Dyn Gwyrdd i gefnogi datblygiad y celfyddydau, ymgysylltu â gwyddoniaeth a chreu cyfleoedd i bobl o dan anfantais yng nghymunedau Cymru. Cefnogwyd prosiectau tebyg gan ŵyl y Dyn Gwyrdd am flynyddoedd lawer ond roeddent wedi cyrraedd pwynt lle’r oedd angen eu lle eu hunain i ffynnu ymhellach. Ers hynny mae’r nifer o filoedd o bobl wedi cael cefnogaeth yr ymddiriedolaeth ac mae’r ‘pethau da’ yn ymledu drwy’r amser. Mae Stewart wedi gweithio ym mhob rhan o’r diwydiant adloniant a cherddoriaeth ers 30 mlynedd. Fe’i rhestrir fel rhif 24 yn rhestr Women’s Hour Music Power y BBC. Yn 2013 hi oedd y ddynes gyntaf i dderbyn yr anrhydedd mwyaf ym myd gwyliau drwy wobr ‘Cyfraniad Anhepgor i Wyliau’r DU,’ a ddyfarnwyd yn flaenorol i John Peel, Peter Gabriel a Michael Eavis. Hi yw’r unig fenyw yn y DU i gael perchenogaeth â rheolaeth dros ŵyl gerddoriaeth annibynnol fawr. Mae Stewart yn Gyfarwyddwr Bwrdd Gweithredol Cymdeithas Hyrwyddwyr Cyngerdd (CPA) – y corff lobïo blaenllaw sy’n cynrychioli adloniant cerddoriaeth fyw yn y DU.

Ian Fielder

Ian yw Cyfarwyddwr Gweithrediadau Plantpot Cyf ac mae wedi bod yn cynnal digwyddiadau ers dros 20 mlynedd. Mae’n un o’r bobl allweddol yn natblygiad 2 o wyliau annibynnol mwyaf enwog a phoblogaidd y DU – y Big Chill a’n Dyn Gwyrdd ni. Yn un o Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd ers y cychwyn cyntaf, mae Ian yn dod â chyfoeth o arbenigedd mewn rheoli a chynhyrchu digwyddiadau ar raddfa fawr sydd wedi bod yn allweddol wrth sefydlu rhaglenni’r Ymddiriedolaeth. Wedi treulio rhan fwyaf o’i fywyd yn dod â chynulleidfaoedd a’r celfyddydau ynghyd, mae’n frwdfrydig am weld y genhedlaeth nesaf o artistiaid yn tyfu’n sêr yfory ac yn ymfalchïo yng ngwaddol ein rhaglenni ar gymaint o artistiaid eisoes. Fel eiriolwr a chrëwr cyfleoedd lle gall pobl ifanc hyfforddi ac anelu at yrfa yn y diwydiannau creadigol, mae Ian hefyd wedi mentora llawer o’n rhaglenni hyfforddi dros y blynyddoedd ochr yn ochr â’i gefnogaeth fel Ymddiriedolwr.

Natasha Hale

Yn 2017, penodwyd Natasha yn Brif Swyddog Gweithredu Bad Wolf Productions a Stiwdio Blaidd Cymru. Mae eu prosiectau’n cynnwys A Discovery of Witches ar gyfer Sky One a His Dark Materials ar gyfer y BBC. Arweiniodd Natasha ar greu Stiwdio Blaidd Cymru o’r cychwyn cyntaf nes ei fod yn gweithredu’n llawn. Cyn hynny, sefydlodd Natasha adran gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer y Diwydiannau Creadigol yn 2010. Dros y chwe blynedd nesaf, bu’n goruchwylio strategaeth i wneud Cymru yn ganolfan fyd-eang ar gyfer drama deledu proffil uchel.

Dan Langford OBE

Mae Dan yn ymgynghorydd llawrydd sy’n gweithio ag amrywiaeth o sefydliadau, gan ddarparu cymorth ar arweinyddiaeth farchnata, cyfathrebu strategol a datblygu partneriaeth. Tan 2020, Dan oedd Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu Grŵp Acorn, un o gwmnïau recriwtio mwyaf blaenllaw’r DU, swydd y bu’n gweithio ynddi am 16 mlynedd. Cyn iddo ymuno ag Acorn, Dan oedd Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Dros y blynyddoedd, mae Dan wedi dal amryw o swyddi bwrdd anweithredol a gwirfoddol yn y sectorau preifat a chyhoeddus, gyda sefydliadau fel CBI Cymru,
Cyngor Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad, Coleg Glan Hafren, Cymdeithas Cymru yn Llundain, a dau Benodiad Gweinidogol. Roedd y naill am naw mlynedd, lle bu’n eistedd ar fwrdd strategaeth Busnes Cymru, prif wasanaeth cymorth busnes Llywodraeth Cymru, ac yna am bedair blynedd bu’n aelod o Fwrdd Datblygu Strategol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn un o chwe chyfarwyddwr yn unig o’r sector preifat.

Mae Dan yn gyd-sylfaenydd Fforwm Busnes Cymru Ffrainc a Menter Malta Cymru, ac ef yw Ysgrifennydd Grŵp Hollbleidiol Seneddol dros Gymru yn y Byd. Ef yw Sylfaenydd a Chadeirydd Wythnos Cymru Llundain ac Wythnos Cymru Ledled y Byd. Mae Dan yn Gymrawd y Sefydliad Siartredig Marchnata ac yn Gymrawd yr RSA. Yn 2022 cafodd ei enwi fel un o’r ‘100 Newidiwr Gorau yng Nghymru’, a chafodd wahoddiad i ddod yn Gymrawd Sefydliad Materion Cymreig. Yn 2019 dyfarnwyd OBE iddo am Wasanaethau i Fusnes.

Joanna Owen

Daeth Joanna yn Ymddiriedolwr ym mis Mai 2018. Mae hi’n byw yn Llundain ond fe’i magwyd ger Bryste ac mae ganddi atgofion melys o ymweld â Chymru fel plentyn. A gyda’i chyfenw Owen, mae ganddi berthynas gref â Chymru. Gwasanaethodd Joanna fel Cadeirydd y Gwasanaeth Cyfraith Anabledd am 10 mlynedd hyd 2015. Mae’n gweithio fel cyfreithiwr yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac mae’n angerddol am gyfiawnder cymdeithasol. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn y gwaith y mae’r Ymddiriedolaeth yn ei wneud i fentora a hyfforddi pobl ifanc creadigol yn y celfyddydau a’r gwaith gyda grwpiau sy’n agored i niwed fel Oasis Caerdydd a Byddin yr Iachawdwriaeth, gan fod y rhain yn achosion agos iawn at ei chalon. Mae Joanna yn ddefnyddiwr cadair olwyn ac mae’n cefnogi enw da rhagorol y Dyn Gwyrdd am ddarpariaeth mynediad i bobl anabl – rheswm arall pam nad oedd hi wedi petruso bod yn rhan o Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd.

Daeth yr actor a chyfansoddwr caneuon o Gaerfyrddin Iwan Rheon yn Llysgennad i ni yn 2017. Mae rôl Iwan yn golygu ei fod yn ymwneud â phrosiectau amrywiol a niferol Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd, gan gynnwys datblygu’r celfyddydau, hyfforddiant a datblygu cymunedau Cymru.

Mae Iwan yn adnabyddus am ei berfformiad yn y ffenomen byd-eang Game of Thrones yn ogystal â Misfits, Inhumans, Riviera a’i ymddangosiad West End diweddar yn nrama arobryn Dawn King, Foxfinder. Yn 2015, rhyddhaodd Iwan ei albwm gyntaf, Dinard, yn dilyn cyfres o EPau a dderbyniwyd yn dda – Tongue Tied, Changing Times, a Bang!

Does dim byd tebyg iddo [y Dyn Gwyrdd] yn y byd. Yn anarferol mae’n defnyddio ei lwyddiant i helpu pobl; o ddatblygu prosiectau cymunedol a chwaraeon, arddangos artistiaid, hyfforddi pobl o dan anfantais, ymgysylltu â gwyddoniaeth i gefnogi busnesau bach Cymreig. Mae’r ethos o greu cyfleoedd yn rhedeg drwy galon y Dyn Gwyrdd.

Iwan Rheon, Llysgennad Ymddiriedolaeth Y Dyn Gwyrdd

Mae Noddwyr Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd yn grŵp arbennig o bobl sy’n ein helpu i wneud pethau da i ddigwydd, diolch anferthol i:

  • David & Karen Broadway
  • Chris Nott
  • Colin Riordan & Charlie Robinson
  • Lady Victoria Conran

Hoffai Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd ddiolch yn fawr i’r holl bobl gwych sydd wedi gwneud rhoddion, ariannu ein prosiectau a chefnogi ein gweithgareddau. Diolch i ŵyl y Dyn Gwyrdd, Cyngor Celfyddydau Cymru, Chyngor Celfyddydau Lloegr, PRS Foundation, Ashley Family Foundation a Ymddiried – Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig y mae eu cefnogaeth yn gwneud ein gwaith yn bosibl.

    

                                                                 

 

Back To Top