Y Celfyddydau Perfformio
1619
o artistiaid ers 2014
21
O berfformiadau’n cael eu dangos bob blwyddyn
1
Digwyddiad ar gyfer celfyddyd o gymru
Mae bob amser yn wych bod yn rhan o awyrgylch greadigol ac ymddengys fod y Dyn Gwyrdd yn ganolbwynt i hyn.
Theatr Tin Shed
Ers cyflwyno’r Celfyddydau Perfformio i’r Dyn Gwyrdd yn 2014, mae’r rhaglen wedi tyfu i fod yn gynnig anhygoel o dalent Cymreig. Mae’n golygu rhoi llwyfan i artistiaid newydd ar gyfer mentora, camu ymlaen gyda’u gyrfa a datblygiad. Mae bob amser yn wych bod yn rhan o awyrgylch greadigol ac ymddengys fod y Dyn Gwyrdd yn ganolbwynt i hyn.
Mae ein rhaglen wedi dod â thalent newydd cyffrous ynghyd ag ystod disglair o bartneriaid, gan gynnwys Citrus Arts, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, National Theatre Wales, Ballet Cymru, Circomedia, NoFit State a Theatr Tin Shed – pob un yn cydweithio i greu profiad unigryw y Dyn Gwyrdd o syrcas awyr agored, theatr, dawns, cabaret a phopeth yn y canol.
Mae Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd yn rhannu ein gweledigaeth ar gyfer meithrin cenedlaethau’r dyfodol o berfformwyr, artistiaid a phobl greadigol o bob math. Mae’n rhoi’r cyfle iddynt gamu ymlaen i’r rolau y maen nhw’n teimlo’n barod i’w gwneud.