skip to Main Content

Newyddion

19 Tachwedd 2023

CYFLE SWYDD

Rôl y Swydd: Cynorthwyydd Rising – Y Dyn Gwyrdd

Dyddiad Cau: 3 Ebrill 2024, 23:59

Cyflog: £25,688 gros pro rata y flwyddyn (£1,976 gros am 20 diwrnod)

Math o Gyflogaeth: Cyfnod Penodol, contract rhan amser

Oriau Gwaith: i’w cytuno â’r rheolwr llinell. Mae’r Dyn Gwyrdd yn cynnig oriau gweithio hyblyg.

Gweithio i’r: Cyfarwyddwr (cerddoriaeth ac archebu)

Sut i wneud cais: Anfon CV a llythyr eglurhaol at jobs@greenman.net

Y Rôl

Mae Green Man Rising, sy’n rhaglen datblygu cerddoriaeth unigryw yn cefnogi 125 o grewyr cerddoriaeth bob blwyddyn ac yn eu rhoi ar ben ffordd fel eu bod yn gallu datblygu’n brif artistiaid y dyfodol. Mae’n cynnig cyfleoedd i artistiaid newydd berfformio’n fyw, a manteisio ar asedau hyrwyddo proffesiynol, mentora gan weithwyr proffesiynol y diwydiant ac mae’n rhoi mynediad at rwydwaith o grewyr chwaeth allweddol y diwydiant a all wthio eu gwaith ymlaen. Mae’n digwydd o dan ymbarél Gŵyl y Dyn Gwyrdd gan roi cyfle i fandiau agor ei Llwyfan Mynydd eiconig.

Pwrpas y Rôl

Mae’r Dyn Gwyrdd yn chwilio am Gynorthwyydd i ymuno â’i Dîm Cerddoriaeth ac i gynorthwyo â’r gwaith o reoli rhaglen Green Man Rising, o’r broses ddethol i reoli bandiau yn yr ŵyl. Mae’r rôl yn gofyn am unigolyn brwdfrydig sy’n credu mewn gweithio’n galed ac sy’n gweithio’n dda dan bwysau, rhywun a chanddo bersonoliaeth ddymunol ac sy’n datblygu perthynas yn naturiol.

Bydd y rôl yn gofyn am weithio ‘ar y safle’ yn ystod gwahanol gamau o’r rhaglen, h.y. yn y rownd derfynol fyw (mis Mehefin 2024) ac yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd (Awst 2024).

Mae hon yn rôl ran-amser gydag ymrwymiadau dyddiol amrywiol a disgwylir y bydd rhai oriau gwaith yn anghymdeithasol.

Tasgau a chyfrifoldebau

  1. Cefnogi’r Tîm Cerddoriaeth gyda phroses ddethol ceisiadau cystadleuaeth Green Man Rising.
  2. Cynorthwyo’r tîm wrth grynhoi asedau marchnata gan fandiau.
  3. Cynorthwyo i drefnu’r gystadleuaeth derfynol fyw, gan gydlynu â’r ganolfan bartner a rhanddeiliaid eraill.
  4. Gweithredu fel y prif gyswllt ar gyfer bandiau sy’n cymryd rhan.
  5. Cynorthwyo â disgwyliadau a gofynion penodol a rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i’r timau perthnasol.
  6. Cynorthwyo’r timau Marchnata a Cherddoriaeth a chwmni cynhyrchu partner i reoli’r sesiynau yn yr ŵyl.
  7. Goruchwylio’r holl artistiaid a gwahoddedigion wrth iddynt gyrraedd yr ŵyl a sicrhau fod popeth yn digwydd yn hwylus.
  8. Gweithredu fel cyswllt cyntaf timau Swyddfa Docynnau’r Artistiaid ar gyfer ymholiadau yn ystod dyddiau byw yr ŵyl.
  9. Gweithio gyda Rheolwr Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd i fonitro a gwerthuso’r rhaglen.
  10. Darparu cymorth gweinyddol yn ôl yr angen gan y rheolwyr llinell.

Sgiliau

  • Sgiliau cyfathrebu a sgiliau rhifedd rhagorol
  • Cyfarwydd â gweithio gyda Photoshop, Indesign, G Suite, Microsoft Office (Excel yn arbennig)
  • Gwaith trylwyr a sgiliau trefnu da
  • Sgiliau ymchwilio rhagorol
  • Y gallu i weithio mewn amgylchedd tîm, a derbyn cyfarwyddyd a gwneud penderfyniadau yn ôl yr angen.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithle a chymuned amrywiol, cyfartal a chwbl gynhwysol ac i gynnig amgylchedd gwaith sy’n parchu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, lle mae pob un yn teimlo ei fod yn cael ei groesawu ac yn hyderus i ymddwyn yn gwbl naturiol.

Mae llais pob unigolyn yn ychwanegu gwerth i’r Dyn Gwyrdd ac rydym yn cyflwyno gwaith i bawb ac sydd wedi’i wneud gan bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o gefndir Du, Asiaidd neu Ethnig Amrywiol, y B/byddar neu’r anabl a chan unrhyw un sydd â nodwedd warchodedig o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.

Yn y rôl hon byddwch yn gweithio o fewn y cerrig milltir y cytunwyd arnynt gan y rheolwyr llinell ac yn cydymffurfio â’r Contract Cyflogaeth a’r Llawlyfr Cyflogwyr y mae’r Disgrifiad Swydd hwn yn rhan ohonynt.

 

2 Tachwedd 2023

Dewch yn llu da chi! Am £5 gallech ennill y poster Green Man 2023 RHYFEDDOL ac unigryw hwn sydd wedi’i argraffu ar sgrin a’i lofnodi gan yr holl brif artistiaid: Spiritualized, Slow Dive, DEVO, Goat, Self Esteem, Young Fathers & First Aid Kit ac sydd wedi’i ddylunio gan yr anhygoel UK Poster Association.

Mae ein raffl yn agor ar nawr ac yn cael ei thynnu ar 4 Rhagfyr yn union mewn pryd ar gyfer y Nadolig. Dim ond un wobr sydd i’w hennill felly po fwyaf o docynnau fyddwch chi’n brynu gorau yn y byd fydd eich siawns o’i chipio! Mae pob ceiniog yn mynd yn syth i gefnogi gwaith elusennol Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd. Rydym yn dathlu 10 mlynedd o fodolaeth yn 2024 ac mae gennym brosiectau cyffrous ar y gweill!

Mae’r poster wedi ei fframio’n broffesiynol ac mewn mownt acen ddwbl, ffrâm bren wedi’i pheintio’n wyn gyda haen acrylig UV amddiffynnol. Peidiwch â cholli cyfle, mae’n siawns wirioneddol unigryw i gael gafael ar brint amhrisiadwy …

DOLEN

Pob lwc!

GMT x

1 Gorffennaf 2021

Y DYN GWYRDD YN AMLINELLU GWELEDIGAETH GWERTH £23M I DDOD Â SWYDDI A CHYFLEOEDD I BOWYS

Cyflwynodd Fiona Stewart, Rheolwr Gyfarwyddwr a pherchennog y cwmni sydd y tu ôl i Ŵyl y Dyn Gwyrdd, ei gweledigaeth ar gyfer Fferm Gilestone mewn cyfarfod o gynrychiolwyr y gymuned.

Amcan y weledigaeth yw rhoi hwb i economi wledig y Canolbarth a darparu swyddi a chyfleoedd i bobl ifanc a chefnogi busnesau newydd a busnesau sydd eisoes yn canolbwyntio ar gefn gwlad.

Bwriad y cynlluniau sy’n dod i’r amlwg yw creu menter wledig gynaliadwy newydd a fyddai’n cynhyrchu £23m i’r economi leol, gan ddarparu o leiaf 38 o swyddi llawn amser newydd a chefnogi 300 o swyddi lleol drwy ei chadwyn gyflenwi.

Mae cynllun Fferm Gilestone yn mynd i’r afael â phum mater sy’n allweddol i’r ardal leol:

1. Ffermio Cynaliadwy: Parhau â gweithgareddau amaethyddol cyfredol y fferm a datblygu arferion ffermio adfywiol a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.

2. Twristiaeth: Rhoi hwb i dwristiaeth leol drwy wella’r ddarpariaeth llety gyfredol ar Fferm Gilestone trwy ei throi’n encil ecogyfeillgar gwyrdd, sy’n cynnwys glampio a llety rhent.

3. Menter wledig: Cefnogi busnesau presennol i ddatblygu a chreu mentrau newydd fel bragdy, becws ac ysgol bobi. Bydd y rhain yn ffurfio rhan o ymgyrch ffermio ‘plât llawn’, a fydd yn defnyddio grawn a dyfir ar y fferm i wneud y cynnyrch, a fydd yn cael ei werthu i farchnadoedd, stocwyr lleol, a’i ddefnyddio yn yr holl ddigwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal ar y fferm ac yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd.

4. Pobl ifanc: Darparu cyfleoedd prentisiaethau a hyfforddiant i bobl ifanc o bob rhan o Bowys. Creu cartref parhaol i Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd, cangen elusennol yr Ŵyl, i roi newid positif i bobl ifanc ym Mhowys.

5. Hyb Creadigol: Helpu i ddatblygu’r diwydiannau creadigol ar draws Canolbarth Cymru drwy sefydlu hyb creadigol a fydd yn gweithredu fel sefydliad angori i fusnesau cyfredol a rhai newydd. Ni fyddai’r fferm yn cael ei defnyddio ar gyfer Gŵyl y Dyn Gwyrdd nac unrhyw ddigwyddiad arall o’r un maint.

Meddai Fiona Stewart:

Rwy’n teimlo’n angerddol ynglŷn â’r syniad o allu defnyddio llwyddiant brand y Dyn Gwyrdd i helpu i greu mwy o dwf economaidd ym Mhowys a Chanolbarth Cymru a darparu cyfleoedd newydd i bobl ifanc yn arbennig.

Mae ein gweledigaeth yn cyd-fynd ag uchelgeisiau Cyngor Powys a Llywodraeth Cymru ar gyfer dod â rhagor o ffyniant i gefn gwlad y Canolbarth ac rwy’n mawr obeithio y gallwn gydweithio ochr yn ochr â’r cymunedau lleol i wireddu’r cyfle hwn.

Galwyd y cyfarfod, a gynhaliwyd ar 17 Mawrth, gan Lywodraeth Cymru ac roedd swyddogion a chynrychiolwyr etholedig o Gyngor Powys, Cyngor Cymuned Tal-y-bont ar Wysg, ac Awdurdod Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn bresennol.

Back To Top