skip to Main Content

Newyddion

18 Rhagfyr 2025

Mae’n bleser gan Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd gyhoeddi mai hi yw partner Cymreig Consortiwm y 4 Gwlad a fydd yn cynnig bwrsariaethau ar gyfer creu gwaith newydd gan artistiaid sy’n dod i’r amlwg a chwmnïau sydd â diddordeb mewn celfyddydau awyr agored.

Dyfernir bwrsariaethau i ymgeiswyr o’r Alban, Lloegr, Cymru ac Iwerddon. Bydd y prosiect yn caniatáu i artistiaid ar ddechrau eu gyrfa gael eu mentora drwy greu darnau celf awyr agored newydd, a fydd yn teithio i wyliau partner ym mhob un o’r pedair gwlad yn ystod haf 2025:

Bydd yr artistiaid/cwmnïau a fydd yn cael eu dewis yn cael cyllideb o £5000/€5500 er mwyn creu’r darn a £150/€170 y pen bob dydd ar gyfer dyddiau perfformio, mentora proffesiynol gan y gwyliau a phob un o rwydweithiau’r Consortiwm, ynghyd â chyfnod preswyl o dridiau yn Bradford ym mis Mawrth 2025. Darperir trafnidiaeth, llety a chostau dyddiol (neu gyfwerth) ar gyfer y cwrs preswyl a’r daith berfformio.

Gofynion:

  • Cyflwyno syniad ar gyfer darn celf awyr agored newydd ar raddfa fach (sefydlog neu grwydrol)
  • Mae’n rhaid i’r darn fod ar gyfer artist unigol neu ddau artist teithiol (rhaid i’r ymgeisydd gadarnhau enw pob artist cyn gwneud cais)
  • Mae’n rhaid i’r darn fod o faint sy’n hwylus i’w gludo
  • Mae’n rhaid i’r darn fod yn addas i’w berfformio neu i’w arddangos mewn gofodau trefol ac mewn mannau gwyrdd.
  • Mae’n rhaid i’r artistiaid fod ar gael ar gyfer y cyfnod preswyl yn Bradford rhwng 23 a 26 Mawrth 2025
  • Rhaid i artistiaid hefyd fod ar gael ar gyfer nifer penodol o ddyddiadau mentora yn ystod yr wythnos rhwng mis
  • Mawrth a mis Gorffennaf 2025 (union ddyddiadau i’w cytuno)
  • Rhaid bod ar gael ar gyfer dyddiadau pob un o’r pedair gŵyl:
    o 18 – 20 Gorffennaf 2025 (Gŵyl Surge, Yr Alban)
    o 25 – 27 Gorffennaf 2025 (Bradford 2025, Lloegr)
    o 1 – 3 Awst 2025 (Gŵyl Spraoi, Iwerddon)
    o 14 – 17 Awst 2025 (Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Cymru)

Byddwn yn cynnig:

  • Cyfnod preswyl strwythuredig yn Bradford ynghyd â mentora proffesiynol gan Surge, Bradford Producing Hub, Bradford 2025, Spraoi a’r Dyn Gwyrdd ar gyfer creu, cynhyrchu, marchnata a gwneud ffilmiau ‘guerrilla’;
  • Bwrsari o £5000/€5500
  • Costau teithio, llety, costau dyddiol, a ffi o £150/€170 y dydd fesul artist ym mhob gŵyl
  • Cefnogi mynediad at ofod ymarfer a chreu priodol

Mae Consortiwm Bwrsariaeth y 4 Gwlad yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant. Rydym yn annog ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a gallu.

Sylwch fod maint a chyrhaeddiad y prosiect hwn yn dibynnu ar ganlyniadau ariannu penodol.

Er mwyn ymgeisio:

E-bostiwch eich cynnig (uchafswm o 500 gair) ac un bywgraffiad neu bio byr ar gyfer pob perfformiwr/cydweithredwr (uchafswm o 100 gair yr un), mewn un ddogfen.

  • Os ydych yng Nghymru cysylltwch â Zoe Munn yn y Dyn Gwyrdd yn zoe@greenman.net
  • Os ydych yn yr Alban cysylltwch ag Alan Richardson yn Surge yn  alan@surge.scot
  • Os ydych yn Lloegr cysylltwch â Bradford 2025 yn  grants@bradford2025.co.uk
  • Os ydych yn Iwerddon cysylltwch â Spraoi Festival yn nest@spraoi.com

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw hanner nos ar ddydd Llun, 3 Chwefror.

Gwneir penderfyniadau ar ddydd Llun, 10 Chwefror.

Gyda diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru.

 

12 Gorffennaf 2024

Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd yn cyhoeddi enwau derbynyddion ei Gynllun Grant Cymunedol gwerth £20K+ yn 2024. Dewiswyd 14 o dderbynyddion, gan fwy na dyblu nifer yr achosion a gefnogwyd yn 2023.

Toiledau Cymunedol Llangors – £500 tuag at gostau cynnal parhaus.
Clwb Criced Glangrwyne – £500 tuag at ddatblygu criced merched a genethod.
Neuadd Gymunedol Llangatwg – £1,000 tuag at newid yr hen do fflat.
Biwro Gwirfoddolwyr Crughywel – £2,000 ar gyfer prynu offer TG newydd.
Ysgol Gynradd Llangynidr – £2,000 tuag at hyfforddiant Ysgolion Coedwig.
Canolfan Gymunedol Llangors – £1,885 tuag at system sain ar gyfer neuadd y pentref.
Balchder Aberhonddu – £2,000 tuag at gostau cyffredinol y digwyddiad.
Sense Cymru – £2,000 i helpu gyda phrynu offer Innowalk.
MPYT – £1,250 tuag at brosiect theatr deithiol ar gyfer pobl ifanc gan gynnwys y rhai ag awtistiaeth, anhwylderau niwroamrywiol ac anableddau eraill.
Ysgol Gynradd Llangatwg – £2,000 i helpu i brynu pwll tân a lloches i wella cyfleusterau awyr agored ar gyfer Ysgolion Coedwig.
Cyswllt Celf – £2,000 tuag at 16 o weithdai celf i ofalwyr ifanc.
Y Honeypot – £1,250 tuag at wyliau seibiant preswyl i blant 5-12 oed.
Ysgol Gynradd Gymunedol Crughywel – £2,000 tuag at greu Ystafell Synhwyraidd.
Grŵp Adfywio Rhanbarth Talgarth – £1,440 tuag at furlun ysgol ym maes chwarae’r gymuned yn Nhalgarth.

Meddai llefarydd ar ran Honeypot, yr elusen plant: Diolch am gefnogi a gofalu am ein hachos, mae’n ysgogiad gwych i ni gyd. Bydd hyn yn cael effaith fawr ar ein gofalwyr ifanc sy’n ymweld â Honeypot. Mae’r sefyllfa sy’n wynebu gofalwyr ifanc yn realiti anodd … Ond diolch i’n gwasanaethau ac i gefnogaeth fel hyn gallwn sicrhau bod plant bregus yn parhau i greu’r atgofion melys y maent yn eu gwirioneddol haeddu.

Meddai William Powell, Cynghorydd Sir: Rydym wrth ein boddau yn derbyn y newyddion hwn gan Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd. Bydd yr arian yn caniatáu inni ymgysylltu ag ymarferydd celfyddydau cymunedol lleol i weithio gyda disgyblion Ysgol y Mynydd Du a phobl ifanc leol eraill i ddatblygu syniadau ysbrydoledig ar gyfer y murlun arfaethedig. Mae ‘na gyffro a disgwyliad gwirioneddol yn deillio o’r cyfle hwn gan Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd – ac edrychaf ymlaen at ei weld yn datblygu!

2 Tachwedd 2023

Dewch yn llu da chi! Am £5 gallech ennill y poster Green Man 2023 RHYFEDDOL ac unigryw hwn sydd wedi’i argraffu ar sgrin a’i lofnodi gan yr holl brif artistiaid: Spiritualized, Slow Dive, DEVO, Goat, Self Esteem, Young Fathers & First Aid Kit ac sydd wedi’i ddylunio gan yr anhygoel UK Poster Association.

Mae ein raffl yn agor ar nawr ac yn cael ei thynnu ar 4 Rhagfyr yn union mewn pryd ar gyfer y Nadolig. Dim ond un wobr sydd i’w hennill felly po fwyaf o docynnau fyddwch chi’n brynu gorau yn y byd fydd eich siawns o’i chipio! Mae pob ceiniog yn mynd yn syth i gefnogi gwaith elusennol Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd. Rydym yn dathlu 10 mlynedd o fodolaeth yn 2024 ac mae gennym brosiectau cyffrous ar y gweill!

Mae’r poster wedi ei fframio’n broffesiynol ac mewn mownt acen ddwbl, ffrâm bren wedi’i pheintio’n wyn gyda haen acrylig UV amddiffynnol. Peidiwch â cholli cyfle, mae’n siawns wirioneddol unigryw i gael gafael ar brint amhrisiadwy …

DOLEN

Pob lwc!

GMT x

1 Gorffennaf 2021

Y DYN GWYRDD YN AMLINELLU GWELEDIGAETH GWERTH £23M I DDOD Â SWYDDI A CHYFLEOEDD I BOWYS

Cyflwynodd Fiona Stewart, Rheolwr Gyfarwyddwr a pherchennog y cwmni sydd y tu ôl i Ŵyl y Dyn Gwyrdd, ei gweledigaeth ar gyfer Fferm Gilestone mewn cyfarfod o gynrychiolwyr y gymuned.

Amcan y weledigaeth yw rhoi hwb i economi wledig y Canolbarth a darparu swyddi a chyfleoedd i bobl ifanc a chefnogi busnesau newydd a busnesau sydd eisoes yn canolbwyntio ar gefn gwlad.

Bwriad y cynlluniau sy’n dod i’r amlwg yw creu menter wledig gynaliadwy newydd a fyddai’n cynhyrchu £23m i’r economi leol, gan ddarparu o leiaf 38 o swyddi llawn amser newydd a chefnogi 300 o swyddi lleol drwy ei chadwyn gyflenwi.

Mae cynllun Fferm Gilestone yn mynd i’r afael â phum mater sy’n allweddol i’r ardal leol:

1. Ffermio Cynaliadwy: Parhau â gweithgareddau amaethyddol cyfredol y fferm a datblygu arferion ffermio adfywiol a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.

2. Twristiaeth: Rhoi hwb i dwristiaeth leol drwy wella’r ddarpariaeth llety gyfredol ar Fferm Gilestone trwy ei throi’n encil ecogyfeillgar gwyrdd, sy’n cynnwys glampio a llety rhent.

3. Menter wledig: Cefnogi busnesau presennol i ddatblygu a chreu mentrau newydd fel bragdy, becws ac ysgol bobi. Bydd y rhain yn ffurfio rhan o ymgyrch ffermio ‘plât llawn’, a fydd yn defnyddio grawn a dyfir ar y fferm i wneud y cynnyrch, a fydd yn cael ei werthu i farchnadoedd, stocwyr lleol, a’i ddefnyddio yn yr holl ddigwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal ar y fferm ac yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd.

4. Pobl ifanc: Darparu cyfleoedd prentisiaethau a hyfforddiant i bobl ifanc o bob rhan o Bowys. Creu cartref parhaol i Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd, cangen elusennol yr Ŵyl, i roi newid positif i bobl ifanc ym Mhowys.

5. Hyb Creadigol: Helpu i ddatblygu’r diwydiannau creadigol ar draws Canolbarth Cymru drwy sefydlu hyb creadigol a fydd yn gweithredu fel sefydliad angori i fusnesau cyfredol a rhai newydd. Ni fyddai’r fferm yn cael ei defnyddio ar gyfer Gŵyl y Dyn Gwyrdd nac unrhyw ddigwyddiad arall o’r un maint.

Meddai Fiona Stewart:

Rwy’n teimlo’n angerddol ynglŷn â’r syniad o allu defnyddio llwyddiant brand y Dyn Gwyrdd i helpu i greu mwy o dwf economaidd ym Mhowys a Chanolbarth Cymru a darparu cyfleoedd newydd i bobl ifanc yn arbennig.

Mae ein gweledigaeth yn cyd-fynd ag uchelgeisiau Cyngor Powys a Llywodraeth Cymru ar gyfer dod â rhagor o ffyniant i gefn gwlad y Canolbarth ac rwy’n mawr obeithio y gallwn gydweithio ochr yn ochr â’r cymunedau lleol i wireddu’r cyfle hwn.

Galwyd y cyfarfod, a gynhaliwyd ar 17 Mawrth, gan Lywodraeth Cymru ac roedd swyddogion a chynrychiolwyr etholedig o Gyngor Powys, Cyngor Cymuned Tal-y-bont ar Wysg, ac Awdurdod Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn bresennol.

Back To Top