RHYDDHAD LLIFOGYDD
£15,750
YN CAEL EI GODI MEWN YMATEB I’N HYMGYRCH CYMORTH LLIFOGYDD
63
CEFNOGI CARTREFI YN Y CYMUNEDAU YR EFFEITHIWYD FWYAF ARNYNT
Pan darodd Storm Dennis Gymru yn gynnar yn 2020, roeddem yn awyddus i helpu’r cartrefi mwyaf bregus yr effeithiodd y llifogydd dinistriol arnynt. Mae cael llifogydd yn eich cartref yn brofiad dychrynllyd ond mae’n fwy dinistriol fyth os ydych chi’n fregus. Trefnodd yr Ymddiriedolaeth ymgyrch ar-lein a chyda’n gilydd fe wnaethon ni godi swm anhygoel o £15,750. Buom yn gweithio’n agos â’r Adran Cynllunio Brys a Chyngor Sir Powys er mwyn dosbarthu grantiau o £250, gan gynorthwyo 63 o aelwydydd yn uniongyrchol. Rhoddodd yr ŵyl gymorth hefyd i’r gymuned, gan weithredu fel cynghorydd i’r awdurdod lleol, a llwyddwyd i gynorthwyo hyd at 152 o gartrefi.
Roedd yr ymateb i’n hymgyrch yn weithred o garedigrwydd gwirioneddol, a hoffem ddiolch i bob unigolyn a wnaeth gyfraniad; y timau yn @HardLinesCoffee, @WoodfiredSummit, @CrickhowellComedyFestival, @K&MParanormal a’r hyfryd Caroline Thomas – pob un yn trefnu digwyddiadau i godi arian yn eu cymunedau. Cyfrannodd y Dyn Gwyrdd ac Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd £5,000 yr un a chafwyd rhoddion eraill hael gan y cyhoedd. Rydym ni hefyd eisiau diolch i’r Cynghorydd John Morris, Fay Jones AS, Barry Sandilands, y Cynghorydd Rosemarie Harris, Dr Caroline Turner, Nigel Brinn, Greg Landridge-Thomas a gweddill timau meddygol a Chyngor Powys a wnaeth ein helpu i sicrhau fod yr arian yn cyrraedd y cartrefi oedd ei angen fwyaf. Yna fe wnaethon nhw weithio’n ddiflino i ddod â rhyddhad i bobl mewn angen
ac maen nhw’n gwneud hynny’r funud hon yn yr amser heriol hwn. Rydym hefyd am ddiolch i Natasha Hale, Jane Tranter, Joana Owen, Iwan Rheon, Huw Stephens, Caitlin Moran, Pete Paphides, Jo Rodrigues, a phob un o’r llu o artistiaid a chriw’r Dyn Gwyrdd a gefnogodd yr ymgyrch.
Dyma rai o’r bobl wnaethoch eu helpu a oedd eisiau dweud diolch…
Roeddem at ein canolau mewn dŵr afon brwnt, ac yn gadael ein tŷ am bedwar o’r gloch yn y bore yn y tywyllwch gyda dau gi yn cael eu cario uwch ein pennau (…) Diolch Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd. Rhoddodd eich cymorth ariannol hwb emosiynol gwirioneddol i ni. – Celeste Hill
Roedd yr holl lawr gwaelod o dan ddŵr (…) Mae’n deimlad twymgalon meddwl fod pobl eraill yn poeni ac yn gofalu amdanom ac yn fodlon rhoi arian i helpu pobl cwbl ddieithr. Hoffem ni ddweud gymaint ydym ni’n gwerthfawrogi cymorth ariannol y Dyn Gwyrdd yn y cyfnod anodd hwn.– Liz & Jeff Briggs
Rhuthrodd ton anferth drwy’;r tŷ, gan dorri drwy’r llawr gwaelod a rhwygo’r gegin yn ddarnau mân (…) Helpodd cyfraniad y Dyn Gwyrdd ni a chodi ein hysbryd. Rydym ni mor ddiolchgar. – Dave ac Ann Roberts
Effeithiodd y llifogydd o Afon Gwy ar ein llawr gwaelod i gyd. Alla i ddim pwysleisio digon pa mor ddefnyddiol fu grant y Dyn Gwyrdd wrth ein galluogi i wneud taliadau brys ac roeddem yn gwybod bod eich sefydliad yn gofalu amdanom ni. Diolch yn fawr iawn! – Ashley Clarke
Thank you for making good stuff happen! GMx