skip to Main Content

CRONFA GRANTIAU CYMUNEDOL

£500,000+

Yn cael ei godi i brosiectau cymunedol yng Nghymru

PROSIECTAU SY’N GWELLA ANSAWDD BYWYD POBL

Drwy gydol y 21 mlynedd diwethaf, mae’r Dyn Gwyrdd wedi cefnogi newid cadarnhaol yn y gymuned leol. Boed hynny drwy godi arian i’r rhai yr effeithiodd Storm Dennis arnynt yn 2020, cyfrannu arian i fanciau bwyd lleol mewn ymateb i’r argyfwng costau byw, cefnogi clybiau chwaraeon a hamdden, ymgynulliadau cymunedol awyr agored lleol, datblygu Neuadd Bentref Cwmdu, cefnogi ysgolion lleol a chael gafael ar offer i helpu pobl ag anableddau. Ein bwriad ni yw ‘lledaenu daioni,’a dod â phobl at ei gilydd.  Rydym wedi codi mwy na £500K ar gyfer prosiectau cymunedol dros y blynyddoedd.

Hyd yma rydym ni wedi ymateb i gymunedau lleol sydd wedi gofyn am help ac rydyn ni wedi gwneud yr hyn allem ni ar y pryd, ond dros y blynyddoedd mae anghenion y gymuned o’n cwmpas wedi newid. Felly, yn unol â’r meddylfryd newid cymdeithasol positif sy’n llywio ein gwaith, rydym yn hynod o falch o gyhoeddi y bydd y Dyn Gwyrdd yn ychwanegu at ei gymorth cymunedol parhaus trwy gyflwyno CRONFA GYMUNEDOL LEOL newydd drwy ei gangen elusennol, Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd.

Nod ein Cronfa Gymunedol newydd yw cefnogi gweithgareddau sy’n mynd i’r afael â maes penodol o angen cymdeithasol, sy’n annog cynhwysiant ac yn helpu ein cymunedau i ddod yn fwy gwydn. Rydym yn credu fod pobl yn deall beth sydd ei angen yn eu hardal leol yn well na neb, ac felly mae’n bwysig i ni fod eich prosiect yn cynnwys eich cymuned wrth ddylunio, datblygu a chyflwyno’r gweithgareddau rydych chi’n eu cynllunio.

Gallai prosiectau gynnwys y canlynol:

  • Gweithgareddau grwpiau cymdeithasol a diwylliannol sy’n annog cynhwysiant
  • Gweithgareddau hamdden sy’n hybu iechyd a lles i’r henoed a phobl ifanc
  • Gwella hygyrchedd i bobl ag anabledd,
  • Prynu offer, gwneud mân atgyweiriadau, ail-addurno mannau cyhoeddus a rennir
  • Cymorth tuag at filiau gwasanaethau mannau cyhoeddus sy’n dod â phobl at ei gilydd
  • Efrydiau ymarferoldeb, ymgynghoriad cyhoedd, gweithgareddau sy’n ymwneud â llunio polisïau
  • Gweithgarwch sy’n mynd i’r afael â cholled neu unigrwydd,
  • Gweithgaredd i annog newid a chefnogaeth i bobl sy’n profi gwahaniaethu a/neu weithio i herio gwahaniaethu a/neu bobl sy’n profi caledi ariannol.

FAINT O ARIAN ALLWCH CHI YMGEISIO AMDANO

Mae’r grantiau sydd ar gael yn amrywio o £500 i £2,000. 

ARDAL

Powys – Nod ein cynllun grant yw cefnogi prosiectau yng ngyffiniau ardal Gŵyl y Dyn Gwyrdd, yn enwedig yn etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed.

CYMHWYSTER

Sefydliadau gwirfoddol a chymunedol, grwpiau awdurdodau lleol, canolfannau cymunedol, canolfannau hamdden, ysgolion (yn benodol ysgolion anghenion arbennig), grwpiau ieuenctid a mannau cynnes. 

Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau ar gyfer:

  • gweithgaredd sydd eisoes yn digwydd neu sy’n cychwyn cyn inni anfon ein penderfyniad i chi.
  • unigolion
  • unig fasnachwyr
  • sefydliadau sy’n canolbwyntio ar wneud elw a rhannu’r elw hwn yn breifat – gan gynnwys cwmnïau cyfyngedig gan gyfranddaliadau, sefydliadau heb y cloeon asedau cywir, neu sefydliadau sy’n gallu talu elw i gyfarwyddwyr neu gyfranddalwyr
  • sefydlidau y tu allan i Bowys
  • grwpiau ffydd neu wleidyddol a/neu weithgaredd sy’n hyrwyddo syniadau crefyddol neu wleidyddol
  • ceisiadau a wneir gan un sefydliad ar ran un arall

DYDDIAD CAU YMGEISIO

Hanner nos 30 Ebrill 2024

SUT I YMGEISIO

Anfonwch eich cais inni i info@greenmantrust.org.uk, mewn dogfen nad yw’n fwy na 2 ochr A4, a maint ffont heb fod yn llai na 11pt, gan roi’r manylion canlynol: 

  • Enw eich prosiect
  • Ble bydd eich prosiect yn digwydd
  • Ar gyfer pwy mae’r prosiect a’r nifer o fuddiolwyr a ddisgwylir
  • Eich syniad – beth fyddech chi’n hoffi ei wneud
  • Effaith eich prosiect – sut y bydd yn gwella bywyd yn eich cymuned
  • Pryd fydd eich prosiect yn digwydd ac am faint o amser
  • Cost cyfan y prosiect ac am faint o arian ydych chi’n gwneud cais
  • Gallwch gynnwys hyd at 1 ddolen i wedudalen neu fideo sy’n berthnasol i’ch prosiect neu hyd at 2 lun (ni ddylai maint y ffeil fod yn fwy na 2MB)

Byddwn hefyd angen cyllideb sy’n rhoi manylion y gwariant a’r incwm a ragwelir gennych, gan gynnwys unrhyw gefnogaeth mewn nwyddau. Rydym yn falch o fod yn unig gyllidwr eich prosiect ac nid oes angen i chi gael cyllid cyfatebol wedi’i drefnu pan fyddwch yn ymgeisio.

Back To Top