LLESIANT
Mae wedi bod yn amser anodd tu hwnt i bob un ohonom, gyda chymaint o ansicrwydd a heriau yn ein wynebu. Nid yw rhoi sylw i’n hiechyd meddwl a chorfforol erioed wedi bod mor bwysig. Fel cynifer o bobl rydw innau wedi cael problemau yn delio â’m hiechyd meddwl fy hun ac rydw i’n gwybod pa mor llethol y gall hynny fod. Ond gall cydnabod fod gennych broblem a gofyn am gymorth helpu. Rydym wedi bod yn cydweithio â Dr Sean Cross, seiciatrydd ymgynghorol blaenllaw y GIG, i gynnig y canllaw hwn a fydd, gobeithio, yn eich cyfeirio at sefydliadau a allai fod o gymorth.
Fiona Stewart, Cadeirydd Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd, Rheolwr Gyfarwyddwr Gŵyl y Dyn Gwyrdd
Cyflwyniad i iechyd meddwl
Mae iechyd meddwl yn rhywbeth sydd gan bob un ohonom. Mae’r ffordd y gellir gwella neu waethygu ein hiechyd meddwl yn rhywbeth y mae llawer ohonom yn ei ddysgu wrth inni symud drwy fywyd. Yn sicr, mae rhai ohonom yn anlwcus ac mae gennym ragdueddiadau genetig sy’n ein gwneud yn agored i salwch meddyliol neu brofiadau bywyd cynnar dychrynllyd, sy’n arwain at iechyd meddwl gwaeth a mwy cyffredin. Fodd bynnag, mae sawl astudiaeth wyddonol yn dangos fod ffyrdd amlwg iawn o wella ein hiechyd meddwl a’n llesiant cadarnhaol ein hunain:
Yr Olwyn Lesiant
Mae’r corff, y meddwl, yr ysbryd, pobl a lle yn cynrychioli’r 5 llwybr sy’n arwain at lesiant, sef:
- ‘bod yn actif’
- ‘dal i ddysgu’
- ‘rhoi’
- ‘cysylltu’
- ‘cymryd sylw’
- Mae’r olwyn yn ychwanegu chweched elfen sef ‘gofalu’: am y blaned.
Mae’r Olwyn Lesiant yn cael ei disgrifio mewn mwy o fanylder yma.
Mae’n ddychrynllyd sylweddoli fod cymaint o’r elfennau llesiant hyn wedi cael eu taro’n ddifrifol gan y pandemig, un ai o ganlyniad uniongyrchol i Covid-19 neu oherwydd canlyniadau’r cyfyngiadau symud. Mae pawb sy’n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth a’r celfyddydau, yn ymwybodol hefyd o’r elfen ychwanegol arswydus o weld ein sector yn methu â gweithredu. Nid yw’n syndod felly fod cymaint o bobl yn cael trafferthion.
Cael trafferthion gyda’ch iechyd meddwl
Un ffordd o feddwl am eich iechyd meddwl yw meddwl amdano fel sbectrwm: yn y pen mwyaf positif mae ‘ffynnu’. Os ydych yno, rydym bron yn sicr y byddwch yn gwneud rhai neu lawer o’r pethau sy’n cael eu rhestru uchod yn yr olwyn. Mae hyn yn ardderchog. Byddem yn eich annog i barhau i fod yn chwilfrydig a myfyrio ar y pethau ydych yn eu gwneud. Wrth symud i lawr y sbectrwm efallai y byddwch yn dechrau cael trafferthion gyda’ch iechyd meddwl, ac ym mhen arall y sbectrwm efallai y byddwch yn datblygu salwch meddwl.
Os ydych chi’n teimlo eich bod chi’n cael trafferth, efallai y byddwch chi’n dechrau sylwi ar amryw o wahanol bethau:
- Efallai y bydd hyn yn effeithio ar eich cwsg a’ch bod yn ei chael hi’n anodd cysgu yn y nos neu’n deffro’n gynnar iawn yn y bore.
- Efallai y byddwch yn dechrau poeni am lawer o wahanol broblemau ac yn gorfeddwl amdanynt ar draul pethau eraill yn eich bywyd.
- Efallai y byddwch yn dechrau teimlo fod pethau’n drech na chi neu’n teimlo’n bryderus.
- Efallai y byddwch yn teimlo fel ymbellhau oddi wrth wahanol elfennau o’ch bywyd gan gynnwys pobl sy’n bwysig ichi, fel eich teulu neu eich ffrindiau.
- Pan fydd pethau ar eu gwaethaf efallai y byddwch hyd yn oed yn dechrau teimlo nad yw bywyd yn werth ei fyw.
Pan fydd y symptomau hyn yn parhau am gyfnodau maith ac am fwy o amser, weithiau gall pobl gael diagnosis o afiechydon meddwl megis iselder neu anhwylderau gorbryder. Bydd tua 1 o bob 4 ohonom yn cael diagnosis o un o’r anhwylderau hyn yn ystod ein bywyd. Ceir hefyd amrywiaeth o anhwylderau eraill fel anhwylder deubegynol neu sgitsoffrenia, sy’n effeithio ar lawer llai ohonom ond sy’n gallu bod yn llethol. Y peth pwysicaf i’w gofio yw y gellir gwneud rhywbeth i helpu.
Camau y gallwch eu cymryd fel unigolyn
Efallai yr hoffech ddechrau arni drwy ddysgu mwy am y wyddoniaeth y tu ôl i lesiant yn y dolenni uchod.
Efallai yr hoffech chi wneud y canlynol a RHOI CYNNIG AR GWRS MYNEDIAD AGORED YN RHAD AC AM DDIM sy’n cael ei ddarparu gan un o’n cyd-awduron ar y dudalen hon. Mae’n eich arwain drwy’r dylanwad mae Covid-19 yn ei gael ar ein hiechyd meddwl gan ddefnyddio llawer o ddysgu drwy gyfrwng fideos a chyfoedion. Mae dros 20,000 o bobl wedi’i ddefnyddio hyd yma ac mae wedi cael sgôr o 4.7/5! Rydym yn credu y bydd yn helpu i sbarduno syniadau neu weithredoedd ar sut y gallwch ofalu amdanoch eich hun a’ch cymunedau’n well.
Adnoddau eraill
Bydd eich meddyg teulu yn trin llawer o broblemau iechyd meddwl. Dangosodd un astudiaeth fod meddygon teulu yn treulio hyd at draean o’u hamser yn helpu pobl a chanddynt broblemau iechyd meddwl, ac rydym yn dweud hyn er mwyn eich annog i fynd atynt os bydd angen. Maen nhw wedi hen arfer siarad â phobl am sut i gael gafael ar well cymorth yn lleol a gallant eich helpu i gael mynediad at therapïau seicolegol a meddyginiaeth hyd yn oed os byddant yn teimlo ei fod yn briodol.
Defnyddir therapïau siarad yn aml iawn i helpu pan fyddwch yn cael problemau iechyd meddwl. Y math mwyaf cyffredin o therapi yw CBT neu Therapi Ymddygiad Gwybyddol ond defnyddir sawl therapi arall hefyd. Gallwch ddarllen am CBT yma.
Mae’n bosibl cael mynediad at CBT ar y GIG ledled y wlad, er y gall y bydd fod amseroedd aros. Yn Lloegr ceir gwasanaeth o’r enw IAPT sef Gwella Mynediad at Therapïau Seicolegol sy’n golygu y byddwch yn gallu hunangyfeirio at y gwasanaeth yn y rhan fwyaf o fwrdeistrefi neu siroedd – beth am chwilio am eich ardal chi ar Google. Mae gan Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wahanol systemau ond maen nhw’n dal i fod â mynediad at wasanaethau a hynny weithiau drwy eich meddyg teulu. Mewn rhai ardaloedd ceir nifer fawr o ymarferwyr preifat hefyd.
A bydd gan bob adran damweiniau ac achosion brys drwy’r wlad fynediad at arbenigwyr iechyd meddwl. Wrth gwrs, nid yw’n syniad da defnyddio hwn os yw’n bosibl i chi gael gafael ar gymorth mewn ffyrdd eraill, ond mae’n bwysig gwybod ei fod yno a gwybod nad ydych chi ar eich pen eich hun.
Ond os byddwch mewn argyfwng, COFIWCH fod cymorth ar gael 365 niwrnod y flwyddyn, 24 awr y dydd.
Dyma restr o adnoddau defnyddiol – dilynwch y dolennau:
LLESIANT CYFFREDINOL |
|
C.A.L.L. |
Cynnig cymorth emosiynol a gwybodaeth/llenyddiaeth ar Iechyd Meddwl a materion cysylltiedig i bobl Cymru. |
Childline |
Os ydych chi dan 19 oed ac os oes arnoch angen rhywle preifat a chyfrinachol lle gallwch drafod unrhyw beth, a hynny yn rhad ac am ddim, gallwch un ai ffonio 800 1111 neu ymweld â’u gwefan i drefnu sgwrs un-i-un ar-lein. |
Cyngor ar Bopeth |
Mae’n rhoi’r wybodaeth a’r hyder sydd ei angen ar bobl, pwy bynnag ydynt a beth bynnag fo’u problem, i ganfod y ffordd ymlaen. Maen nhw’n cynnig cyngor am ddim ar gyflogaeth, budd-daliadau, rheoli dyledion, llety, hawliau defnyddwyr, teulu, y gyfraith a’r llysoedd, mewnfudo, iechyd a llawer iawn mwy. |
Family Lives |
Cynnig cymorth am ddim mewn perthynas â phob agwedd ar fywyd teuluol, gan gynnwys holl gyfnodau datblygiad plentyn, problemau gydag ysgolion a chymorth ar fagu plant/perthnasau, teuluoedd yn chwalu, trais yn y cartref, bwlio, ymddygiad peryglus pobl yn eu harddegau a phryderon ynghylch iechyd meddwl rhieni a’u plant. Mae’n bosibl cael mynediad i’w llinell gymorth Gymraeg hefyd. |
Live Fear Free |
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio llinell gymorth i roi cymorth a chyngor ynghylch trais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Os ydych chi, aelod o’ch teulu, ffrind neu rywun yr ydych yn bryderus yn ei gylch yn dioddef neu wedi dioddef cam-drin yn y cartref neu drais rhywiol, gallwch gysylltu â’r llinell gymorth am ddim 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos. |
Mind Cymru |
Mae gan y mudiad wefan ardderchog gydag ystod o adnoddau cysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl a sut i’w rheoli. |
Mindfulness Association |
Cynnig sesiynau myfyrio dyddiol dan arweiniad. |
Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru |
Mae’n cynnig adnoddau llesiant di-dâl sy’n cynnwys dosbarthiadau ioga am ddim y gallwch eu gwneud o’ch cartref, i gadw eich corff yn actif ac i ymlacio eich meddwl. |
GIG y DU – Coronafeirws a Llesiant |
Rhowch gynnig ar gwis i gael cynllun am ddim gydag awgrymiadau i’ch helpu i ddelio â straen a phryder, gwella eich cwsg, rhoi hwb i’ch hwyliau a theimlo fod gennych fwy o reolaeth ar bethau. |
Place2b |
Mae gan Place2b fwy na chwarter canrif o brofiad o weithio mewn ysgolion, gan gefnogi llesiant plant, pobl ifanc, teuluoedd a staff ysgolion drwy’r DU ac mae’n cynnig gwasnaethau iechyd meddwl a chwnsela i blant. Mae wedi crynhoi syniadau ar gyfer gweithgareddau llesiant i deuluoedd yn ystod cyfnod y Coronafeirws. |
Stonewall |
Mae’n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i gymunedau LGBT a’u cynghreiriaid. Mae hefyd yn cynnig cyfeiriadur o wasanaethau cymorth LGBT sy’n benodol ar gyfer eich ardal. |
The Listening Place |
Mae’n cynnig apwyntiadau gwrando wyneb yn wyneb sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau llawer o bobl sy’n cael teimladau hunanladdol. |
Y Samariaid |
Beth bynnag ydych chi’n mynd drwyddo, bydd un o’r Samariaid yn wynebu hyn gyda chi. Maen nhw ar gael 24 awr y dydd, 365 niwrnod y flwyddyn. |
THT |
Os ydych chi’n byw gydag HIV neu’n byw gyda rhywun ag HIV ac angen cymorth, mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn cynnig nifer o wasanaethau di-dâl ledled y wlad. Gallwch hefyd gysylltu â nhw ar-lein, drwy’r post neu ar y ffôn. |
Amser i Newid Cymru |
Ymgyrch genedlaethol gyntaf Cymru i roi diwedd ar y stigma a’r gwahaniaethu sy’n wynebu pobl â phroblemau iechyd meddwl. Maen nhw’n cynnig nifer o adnoddau rhad ac am ddim i unigolion, i sefydliadau ac i bobl ifanc. |
CYMORTH I ARTISTIAID |
|
Artquest |
Helpu artistiaid i adeiladu rhwydweithiau, darganfod gwaith a chyfleoedd ariannu, ennill arian neu lwyddo i gael arddangosfeydd, deall eu hawliau cyfreithiol, dod o hyd i lety fforddiadwy neu wneud eu trethi. |
Arts & Health Hub |
Cymuned grŵp cymheiriaid ddi-dâl sy’n cynnig awyrgylch gefnogol i artistiaid i rannu gwaith, syniadau neu heriau. Maen nhw’n cynnal digwyddiadau misol i artistiaid fel y gallant gael mynediad at gymorth gan gymheiriaid ar gyfer datblygu prosiectau, canfod atebion i heriau a lleihau ynysu. |
Equity Charitable Trust |
Cynnig nifer o wahanol grantiau lles i berfformwyr proffesiynol a’r rhai sy’n gweithio yn y celfyddydau perfformio. |
Help Musicians UK |
OffCynnig nifer o raglenni ariannu i gerddorion sy’n byw mewn caledi. |
Llinell Gymorth Music Minds Matter |
Os ydych chi’n gweithio ym maes cerddoriaeth ac yn cael trafferth i ymdopi, neu’n gwybod am rywun yn y sefyllfa honno, gallwch siarad â Music Minds Matter. Nid oes rhaid i’r sefyllfa fod yn argyfwng ac nid oes rhaid i bethau fod yn gysylltiedig â cherddoriaeth. Mae eu Cynghorwyr yno i wrando, i gefnogi ac i roi cymorth ar unrhyw adeg 0808 802 8008. |