skip to Main Content

Byddin Yr Iachawdwriaeth

20

O breswylwyr ers 2012

Mae Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd yn cefnogi rhaglen integreiddio preswylwyr Byddin yr Iachawdwriaeth.

Daw ein prosiect â grŵp o breswylwyr o Fyddin yr Iachawdwriaeth yng Nghaerdydd i’r Ŵyl i fod yn rhan o’n criw. Mae’r profiad yn cynnig hyfforddiant proffesiynol a mentora i’r rheiny sy’n barod i symud ymlaen i’r byd gwaith ac yn anad dim, yn eu helpu i feithrin hyder, yr ymdeimlad o berthyn a hunan-gred. Mae cannoedd o bobl wedi dod drwy’r rhaglen dros y blynyddoedd, gyda nifer yn dod yn ôl i fentora grwpiau newydd.

Mae’r Dyn Gwyrdd wedi dangos i mi, po galetaf rwy’n gweithio; y mwyaf lwcus ydw i.

John, cyfranogwr 2017 a 2018

Stori anhygoel John:

Yn ddiweddar, symudodd John i ganolfan Tŷ Gobaith yn ystod Dyn Gwyrdd 2017 ar ôl cwblhau ei detox yn dilyn cyfnod o alcoholiaeth. Yn y gorffennol, bu’n gweithio ym maes adeiladu ac nid oedd erioed wedi ystyried unrhyw swydd arall. Roedd yn poeni am fynychu’r Dyn Gwyrdd gan mai ei unig brofiadau o wyliau eraill, fel nifer o bobl, oedd yfed a phartio trwy gydol y penwythnos. Ar ei shifft gyntaf, enwebwyd John i fod yn arweinydd y tîm ac er ei fod yn nerfus i ddechrau, mi ddaeth iddi’n hawdd. Yn fuan dysgodd fod gwahaniaethau rhwng arwain tîm o wirfoddolwyr, o’i gymharu â’i brofiad ar safleoedd adeiladu. Aeth ati o’i ben a’i bastwn ei hun i ddod o hyd i ddyletswyddau ychwanegol yr oedd angen eu cyflawni er mwyn rhagori ar y disgwyliadau. Rhoddodd hyn hwb anferthol i’w hyder ac yn ei alluoedd.

Ers 2017, mae John wedi cymryd rhan mewn nifer o brosiectau gwirfoddoli eraill yn Nhŷ Gobaith a bellach wedi symud i lety annibynnol yn y gymuned. Yna, aeth ymlaen ar ei ben ei hun i sicrhau lleoliad gwirfoddoli mentora cyfoedion mewn uned detox leol, lle mae’n mynychu unwaith yr wythnos, gan gynnig cefnogaeth i eraill sy’n cwblhau detox. Yn ogystal, darganfu John gariad o’r newydd at ddysgu ac mae wedi cwblhau nifer o gyrsiau ar gamddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl, seicoleg ac wedi rhoi cynnig ar ysgrifennu creadigol hyd yn oed. Mae John bellach yn gwneud ei Radd Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae wedi mynd o nerth i nerth, nid yn unig drwy adferiad ond hefyd yn ei gariad newydd at addysg a gwirfoddoli. Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd wedi bod yn rhan hanfodol o’i daith ac wedi bod yn amhrisiadwy iddo. Dychwelodd John i’r Dyn Gwyrdd yn 2018 a bu’n wych yn helpu rhoi ein criw newydd ar ben y ffordd.

Back To Top