skip to Main Content

Ennyn diddordeb mewn Gwyddoniaeth

Crëwyd Gardd Einstein yn 2008 i danio chwilfrydedd pobl mewn gwyddoniaeth. Yn uchel ei pharch gyda’r gymuned wyddonol a’r byd academaidd, dyma’r rhaglen ymgysylltu â gwyddoniaeth gyntaf mewn gwyliau cerddoriaeth ac ers dros ddegawd mae wedi bod yn trawsnewid y ffordd y mae dros 200,000 o bobl yn ymgysylltu â gwyddoniaeth yn eu bywydau o ddydd i ddydd.

Daw’r rhaglen â sefydliadau gwyddoniaeth byd-enwog, artistiaid talentog a chynhyrchwyr a chynulleidfaoedd chwilfrydig at ei gilydd i arbrofi, darganfod, cwestiynu a dadlau. Rydym yn creu profiadau gwych ac atgofion oes.

Mae Gardd Einstein hefyd yn creu cyfleoedd i’n partneriaid i ddatblygu cynulleidfaoedd newydd. Mae’n partneriaid yn y gorffennol yn cynnwys:

  • Ymddiriedolaeth Wellcome
  • Cyngor Ymchwil y DU
  • Ymchwil Canser
  • Gofal Canser Tenovus
  • Y Sefydliad Ffiseg
  • Y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg
  • Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar
  • Swyddfa’r Met
  • Coleg Imperial Llundain
  • Prifysgol Bryste
  • Coleg Prifysgol Llundain
  • Prifysgol Caerwysg
  • Prifysgol Caerdydd
  • Prifysgol Abertawe
  • Prifysgol Aberystwyth
Back To Top