Ennyn diddordeb mewn Gwyddoniaeth
Crëwyd Gardd Einstein yn 2008 i danio chwilfrydedd pobl mewn gwyddoniaeth. Yn uchel ei pharch gyda’r gymuned wyddonol a’r byd academaidd, dyma’r rhaglen ymgysylltu â gwyddoniaeth gyntaf mewn gwyliau cerddoriaeth ac ers dros ddegawd mae wedi bod yn trawsnewid y ffordd y mae dros 200,000 o bobl yn ymgysylltu â gwyddoniaeth yn eu bywydau o ddydd i ddydd.
Daw’r rhaglen â sefydliadau gwyddoniaeth byd-enwog, artistiaid talentog a chynhyrchwyr a chynulleidfaoedd chwilfrydig at ei gilydd i arbrofi, darganfod, cwestiynu a dadlau. Rydym yn creu profiadau gwych ac atgofion oes.
Mae Gardd Einstein hefyd yn creu cyfleoedd i’n partneriaid i ddatblygu cynulleidfaoedd newydd. Mae’n partneriaid yn y gorffennol yn cynnwys:
- Ymddiriedolaeth Wellcome
- Cyngor Ymchwil y DU
- Ymchwil Canser
- Gofal Canser Tenovus
- Y Sefydliad Ffiseg
- Y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg
- Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar
- Swyddfa’r Met
- Coleg Imperial Llundain
- Prifysgol Bryste
- Coleg Prifysgol Llundain
- Prifysgol Caerwysg
- Prifysgol Caerdydd
- Prifysgol Abertawe
- Prifysgol Aberystwyth