Cymraeg

» Support Us «

  • Become a patron

    Our Patrons are an integral part of our community, they play a vital role in shaping the impact of our work and the great news is, if you support us, you benefit too.

    Patrons enjoy the very best Green Man experience, with a chance to get behind-the-scenes and meet the people who ensure the festival remains proudly independent and a staple of quality and innovation.

    Patron perks:

    • Personalised priority booking for Green Man festival - beat the queues, book ahead of the general public and guarantee your tickets to the annually sold-out festival, with the assistance of our team.

    • Be the first to know about Green Man secret sets

    • A bespoke tour of the areas supported by the Green Man Trust at the festival - Performing Arts, Einstein’s Garden and the Rising stage.

    • Invitation to our annual, invite-only Drinks reception to meet the people who benefit from your support and like-minded supporters

    • Access to the backstage bar at Green Man festival

    • Invitation to the Green Man Rising final for you and friends.

    • A backstage tour of Green Man Festival

    • A patron goody bag with free Green Man programme and merchandise

    • Your own crew t-shirt

    • Your name in lights on the Green Man Trust online platforms

    To find out more, please contact us below.

  • Donate

    We rely on donations from our community to continue nurturing talented emerging artists and future generations, to give people the agency to take climate action, and to support Welsh communities in creating positive change.

    No matter how big or small your donation, we invest every penny back into our work.

  • Thank You

    A big diolch to the amazing individuals and organisations who are part of the Green Man Trust family and make our work possible:

    Agile Cymru | Ashley Family Foundation | Bad Wolf Ltd | | British Council Wales | Bryan Adams Foundation | Cardiff University | Colwinston Charitable Trust | Community Foundation Wales | GWR Customer & Community Improvement Fund | Hardlines Cafe | Miller Research | Mr Trolley | National Lottery Community Fund | PRS Foundation | Tiger Mountain | Ty Cerdd | University of South Wales | Wales Arts International | Wales Week in London | Welsh Broadcasting Trust | Woodfired Ltd

    Our Patrons & Donors: Angus Bailey | Bredan Kelleher | BOF (Michael & Leonie Parrish) | Chris & Katherine Jones | Chris Nott & Elin Pinnell | Colin Riordan | The Conran Family | Dan Harding | David Bowen | Dave & Karen Broadway | David Whitney | Emma & Ben Shuckburgh | Dai Davies | Francesca James & Dylan Evans | Gary Morgan | Ian Courtney | Jeremy Morton | Kate Bull & Paul Penrose | Kevin Williams | Lee Summers | Liv & Matt Topple | Lucy Darch | Meirion Jones | Mike Seaman & Lou Garner | Neil Laird | Peter Madigan & Carole Hailey | Ralph Bolton | Tom Beech

    Our Founder Fiona Stewart | Ambassador Iwan Rheon | Trustees Natasha Hale, Joanna Owen, Ian Fielder and Dan Langford OBE | project partners & participants, trainers, support workers, producers, directors, technical crew & project managers.

    Green Man Festival logo Arts Council England logo Funded by UK Government logo

  • Raffle T&Cs

    Wrth gymryd rhan mewn Raffl Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, rydych chi'n cytuno i ymrwymo i’r Telerau ac Amodau canlynol:

    Yr hyrwyddwr yw Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd/Green Man Trust, cwmni cyfyngedig trwy warant yng Nghymru a Lloegr (08365361) ac elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr (1156453) â’i swyddfa gofrestredig yn Old Bank House, Stryd Beaufort, Crucywel, NP8 1AD.

    Cymhwysedd

    1) Caniateir i ymgeiswyr gymryd rhan o unrhyw le yn y byd.

    2) Mae unrhyw un sy'n cymryd rhan yn y raffl yn derbyn, os bydd yn ennill Gwobr, y bydd yn gyfrifol am ei daith ei hun i'r digwyddiad ac oddi yno (a thaith ei Wahoddedigion), gan gynnwys cydymffurfio ag unrhyw ofynion fisa.

    3) Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu'n hŷn ar ddyddiad y Raffl. Gofynion Ymgeisio a’r Cyfnod Ymgeisio

    4) Mae’n bosibl talu am gymryd rhan yn y raffl ar safle Gŵyl y Dyn Gwyrdd. Gellir prynu ceisiadau yn Siop y Dyn Gwyrdd neu ym mhabell Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd.

    5) Gellir cymryd rhan yn y raffl am ddim drwy'r post, gweler cymalau (22-25).

    6) Mae'r raffl yn agor am 10:00 GMT ar ddydd Llun yr Ŵyl (Settlement) ac yn cau am 17:00 GMT ar ddydd Sul yr Ŵyl (y ‘Cyfnod Ymgeisio'). Ni dderbynnir unrhyw geisiadau a fydd yn dod i law ar ôl y Cyfnod Ymgeisio.

    7) Nid yw Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd yn gyfrifol am unrhyw oediadau yng ngwasanaeth y Post Brenhinol.

    Y Raffl a’r Enillwyr

    8) Bydd y raffl yn cael ei thynnu ar y dydd Llun ar ôl i'r Ŵyl ddod i ben (y 'Dyddiad Tynnu').

    9) Unwaith y bydd y Cyfnod Ymgeisio yn dod i ben, bydd pob cais dilys yn cael ei gynnwys yn y raffl.

    10) Ar y Dyddiad Tynnu bydd gweinyddwr y raffl (Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd) yn defnyddio generadur rhifau ar hap i ddewis tri (10) enillydd o'r ceisiadau dilys, ynghyd â
    chwe (10) cais ychwanegol i'w defnyddio fel rhestr wrth gefn rhag ofn na ellir cysylltu ag enillydd/enillwyr y Wobr yn unol â chymal 14 isod.

    11) Caniateir i bob unigolyn ymgeisio nifer o weithiau, ond dim ond un Wobr a roddir y person. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, dim ond un o'r Gwobrau y bydd gan bob
    ymgeisydd hawl i’w hennill.

    12) Bydd y rhif cyntaf i gael ei dynnu yn ennill y Wobr Gyntaf, bydd yr ail rif i gael ei dynnu yn ennill yr Ail Wobr a'r trydydd rhif i gael ei dynnu yn ennill y Drydedd Wobr, ac yn y blaen.

    13) Bydd enillwyr y Wobr yn cael eu hysbysu drwy e-bost a/neu bost dosbarth cyntaf o fewn 5 diwrnod i'r Dyddiad Tynnu.

    14) Os nad yw enillydd Gwobr yn cysylltu ag Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd i hawlio ei Wobr o fewn pedwar diwrnod ar ddeg (14) ar ôl y Dyddiad Tynnu, neu os yw'n cael ei
    anghymhwyso o'r raffl, bydd Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd yn dyrannu ei Wobr i un o’r enwau ar y rhestr wrth gefn (yn nhrefn blaenoriaeth, gan ddechrau gyda'r 4ydd person a nodwyd yn y raffl).

    15) Mae penderfyniad Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd ynglŷn ag enillwyr y Gwobrau yn derfynol. Ni fydd unrhyw ohebiaeth yn cael ei chyfnewid.

    Y Gwobrau

    16) Bydd y Gwobrau yn amrywio bob blwyddyn.

    17) Ni ellir cyfnewid y Gwobrau, na’u trosglwyddo, ac ni ellir eu cyfnewid am arian neu am wobrau eraill.

    18) Yn achos Gwobrau sy'n cynnwys mynediad/tocynnau i Ŵyl y Dyn Gwyrdd, bydd yn ofynnol i'r enillwyr a'u Gwahoddedigion ddangos pwy ydynt fel deiliaid tocyn a enwir er mwyn cael mynediad i'r digwyddiad.

    19) Bydd tocynnau yn cael eu hanfon drwy e-bost at yr enillydd a enwir.

    20) Mae mynediad i'r ŵyl yn amodol ar Delerau ac Amodau llawn Tocynnau Mynediad Gŵyl y Dyn Gwyrdd.

    21) Mae’r ymgeisydd buddugol yn derbyn unrhyw un o'r Gwobrau yn amodol ar y ffaith fod yr ymgeisydd buddugol yn cydymffurfio â'r rheolau hyn. Efallai y bydd yn ofynnol i ymgeiswyr buddugol ddarparu cydnabyddiaeth ysgrifenedig o'r rheolau hyn a thelerau ac amodau, caniatâd neu ddatganiadau eraill sy'n ymwneud â'r Gwobrau.

    Cymryd rhan drwy'r post

    22) Gall y rhai sy’n ymgeisio drwy’r post gymryd rhan yn yr hyrwyddiad:

    a) drwy bostio eu henw llawn a rhif ffôn cyswllt (gan gynnwys cod ardal os yw'n darparu rhif llinell dir) neu ddull cyswllt arall (fel y bo'n berthnasol), i'r cyfeiriad post canlynol: Green Man Trust, Old Bank House, Beaufort Street, Crucywel NP8 1AD; a

    b) drwy anfon cais i gymryd rhan mewn amlen. Ni dderbynnir ceisiadau oni fyddant mewn amlen.

    23) Os derbynnir ceisiadau lluosog mewn un amlen, dim ond un cais fydd yn cael ei gynnwys yn y raffl.

    24) Ceisiadau a anfonir drwy'r post;

    a) rhaid iddynt gael eu derbyn yn y cyfeiriad post perthnasol a bennir ar gyfer ceisiadau erbyn diwedd y Cyfnod Ymgeisio fel y nodir yng Nghymal 6.

    b) Bydd ceisiadau lle nad yw’r tâl post yn gywir nac yn ddigonol yn annilys ac ni fyddant yn cael eu hystyried.

    25) Ni dderbynnir ceisiadau personol a cheisiadau wedi'u cyflwyno â llaw. Cyffredinol

    26) Ni fydd Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd yn gyfrifol am unrhyw fethiant neu oedi wrth gyflawni ei rhwymedigaethau i'r enillydd/enillwyr os achosir oedi neu fethiant o’r fath gan amgylchiadau y tu hwnt i'w rheolaeth resymol. Ni fydd Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd ychwaith yn atebol i'r enillydd/enillwyr am unrhyw golled neu ddifrod mewn cysylltiad â'r raffl hon a/neu'r Wobr, ac eithrio mewn achos o farwolaeth neu anaf personol a achosir gan esgeulustod neu dwyll Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd.

    27) Mae Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd yn cadw'r hawl i wneud unrhyw ddiwygiadau rhesymol i'r Telerau ac Amodau hyn ar unrhyw adeg. Yn yr achos hwn, bydd hysbysiad yn cael ei bostio yma. Mae Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd hefyd yn cadw'r hawl i ddatgan bod y raffl yn ddi-rym, i’w hatal, i’w chanslo neu ei diwygio pan fo’n angenrheidiol gwneud hynny.

    28) Fel amod ar gyfer cymryd rhan yn y raffl, rhaid i ymgeiswyr sicrhau nad ydynt, trwy wneud hynny, yn torri unrhyw gyfreithiau yn y wlad lle maent yn preswylio. Ni fydd
    Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd yn atebol mewn unrhyw ffordd os bydd unrhyw ymgeisydd yn cymryd rhan yn y raffl yn anghyfreithlon.

    29) Efallai y bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gymryd rhan mewn mathau o gyhoeddusrwydd heb ganiatâd neu dâl pellach, a bydd y cyhoeddusrwydd hwn yn cynnwys heb gyfyngiad enw'r ymgeisydd, ei gais neu unrhyw wybodaeth a ddarperir gan yr ymgeisydd, gan gynnwys ffotograffau a fideos. Gall Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd ddefnyddio'r wybodaeth hon mewn unrhyw gyfrwng ac ym mhob cyfrwng, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i blatfformau cyfryngau cymdeithasol Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd, am byth fel y caiff Ymddiriedolaeth

    y Dyn Gwyrdd benderfynu.

    30) Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir gan Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd mewn cysylltiad â raffl yn cael ei defnyddio yn unol â Pholisi Preifatrwydd Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd (https://greenmantrust.org.uk/privacy-policy).

    31) Gellir gofyn am restr o'r enillwyr drwy e-bost drwy gysylltu ag 'info@greenmantrust.org.uk'; o fewn tri deg (30) diwrnod o'r Dyddiad Tynnu.

    32) Bydd Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd yn darparu gwybodaeth sy'n nodi bod Gwobr wedi'i dyfarnu yn unol â’r raffl hon. Os ydych yn gwrthwynebu unrhyw fanylyn neu’r holl fanylion a ddarperir gennych er mwyn cymryd rhan yn y raffl a bod enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi neu ar gael, cysylltwch ag Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd yn 'info@greenmantrust.org.uk'. Mewn amgylchiadau o'r fath, rhaid i Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd ddal i ddarparu'r wybodaeth a'r ceisiadau buddugol i'r Awdurdod Safonau Hysbysebu ar gais.

    33) Bydd y raffl hon a'r Telerau ac Amodau hyn yn cael eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr a bydd gan lysoedd Cymru awdurdodaeth unigryw mewn perthynas ag unrhyw anghydfodau sy'n deillio o hyn.