» Celfyddydau Perfformio «
Mae Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd yn gosod artistiaid talentog o Gymru ar lwyfan y byd. Ein rhaglen Datblygu'r Celfyddydau Perfformio yw'r platfform blaenllaw ar gyfer celfyddydau awyr agored Cymru, gan ddefnyddio’r Dyn Gwyrdd fel man lansio proffil uchel i ddatblygu ymarfer artistiaid fel eu bod yn cyrraedd cynulleidfaoedd byd-eang.
2,654+
O berfformwyr wedi’u cefnogi ers 2014
-
Rhaglen y Celfyddydau Perfformio
Mae’r Celfyddydau Perfformio yn ymwneud â chefnogi sector celfyddydau awyr agored Cymru ac yn defnyddio cyrhaeddiad rhyngwladol y Dyn Gwyrdd fel sbardun i artistiaid ddatblygu cynulleidfaoedd newydd a rhoi cynnig ar syniadau newydd, gyda chefnogaeth arbenigedd technegol a chynhyrchu helaeth tîm Gŵyl y Dyn Gwyrdd. Bellach mae'n un o'r dyddiadau allweddol yng nghalendr teithiol cenedlaethol yr Haf. Gyda strategaeth ryngwladol yn cael ei datblygu, rydym yn cysylltu artistiaid o Gymru â marchnadoedd newydd ar gyfer teithio a chyflwyno gwaith rhyngwladol na welwyd mo’i debyg yng Nghymru o'r blaen.
Rydym yn cynnig comisiynau, gofod arbrofi ar gyfer syniadau newydd a chefnogaeth ymarferol, ac rydym yn cefnogi popeth - o gwmnïau syrcas sy'n dod i'r amlwg i enwau adnabyddus fel Theatr Genedlaethol Cymru, Ballet Cymru a Theatr Hijinx wrth iddynt arbrofi gyda ffurf a chyrhaeddiad. Rydym yn hyrwyddo uchelgais, ansawdd cynhyrchu a risg greadigol.
Drwy gynnal perthynas hirdymor gydag artistiaid rydym yn cynnig:
-
Cymorth technegol arbenigol a mynediad i seilwaith cynhyrchu
-
Cyfleoedd mentora a dysgu gan gymheiriaid
-
Cyllideb, lleoliad a chyrhaeddiad sylweddol at gynulleidfaoedd
-
Rhwydwaith gyfnewid ryngwladol
-
Gweithdy a thrafodaeth panel a arweinir gan artistiaid
-
-
Rhaglen Gyfnewid Fyd-eang y Dyn Gwyrdd
Yn 2022, fe wnaethom lansio Rhaglen Gyfnewid Fyd-eang y Dyn Gwyrdd i fanteisio ar gyrhaeddiad rhyngwladol ac enw da'r ŵyl i:
-
Hyrwyddo artistiaid a diwylliant Cymru yn fyd-eang
-
Sefydlu partneriaethau cyd-gomisiynu a theithio ar gyfer artistiaid o Gymru;
-
Estyn gwahoddiad i artistiaid a rhwydweithiau rhyngwladol i Gymru
-
Sefydlu Cymru fel cystadleuydd tra chymwys yn y dirwedd ddiwylliannol ryngwladol.
Mae Rhaglen Gyfnewid Fyd-eang y Dyn Gwyrdd wedi bod yn allweddol wrth ddyrchafu creadigrwydd a diwylliant Cymru ar lwyfan y byd. Mae'r rhaglen wedi sefydlu cysylltiadau fel bod gwaith o Gymru yn teithio mewn gwledydd gan gynnwys Iwerddon, yr Alban, Lloegr, Sbaen, Ffrainc ac Awstralia.
Mae'r rhaglen yn croesawu sefydliadau ac ymarferwyr celfyddydol rhyngwladol i Gymru, gan ganolbwyntio ar yr UE a rhanbarthau sy'n rhannu treftadaeth ieithyddol frodorol Cymru. Datblygwyd partneriaethau cryf gyda chyrff diwylliannol yn Iwerddon, yr Alban, Gwlad y Basg, Catalwnia, ac yn fwy diweddar yn Fflandrys a Llydaw; gan gysylltu rhwydweithiau cenedlaethol a rhyngwladol fel Articulture, Outdoor Arts UK, Four Nations, ISACS, Surge, +Culture, FiraTàrrega, Catalan Arts, Circostrada, Zomer Van Antwerp, Circuscentrum ymhlith eraill
-
-
Ffeithiau Allweddol
-
2,654+ o artistiaid o Gymru wedi’u cefnogi ers 2014
-
118,750+ o unigolion wedi cael eu cyrraedd mewn perfformiadau byw mewn 10 mlynedd
-
353+ o berfformwyr creadigol o Gymru wedi cysylltu’n rhyngwladol
-
90+ o gynrychiolwyr rhyngwladol ers 2022
-
312+ o berfformiadau byw
-
63% wedi’u harwain gan ferched
-
42% LGBTQIA+
-
37% dan arweiniad pobl ag anableddau
-
19 act rhyngwladol ers 2022
-
-
Astudiaeth Achos - Osian Meilir
Mae Osian Meilir yn berfformiwr, yn grëwr dawns ac yn artist symudiadau o Gymru. Yn 2021 creodd ei gynhyrchiad maint canolig cyntaf, Qwerin, fel cyfarwyddwr a choreograffydd, a chomisiynwyd y gwaith gan Articulture Wales ac yna cafodd ei ddatblygu ymhellach yn gynhyrchiad ar raddfa lawn gyda chefnogaeth gan Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd. Cafodd Qwerin ei gyflwyno yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd i filoedd mewn cynulleidfaoedd byw ac ers hynny mae wedi teithio’n rhyngwladol.
Mae Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd wedi chwarae rhan ganolog yn nhaith artistig Meilir. Yn 2024, fe wnaethom gyd-gomisiynu eu darn dawns newydd ar raddfa fach Mari Ha!, a'r flwyddyn ganlynol cefnogwyd ei ddatblygiad yn Mari Hwyr! - gwaith mwyaf uchelgeisiol Osian Meilir hyd yma. Roedd y cynhyrchiad llawn hwn yn nodi eu cydweithrediad cyntaf gydag artistiaid syrcas a galluogi creu sgôr wreiddiol gyda chyfansoddwr o Gymru. Daeth hefyd â thîm creadigol cwbl Gymreig at ei gilydd, gan feithrin datblygu sgiliau a chydweithio trawsddisgyblaethol o fewn y sector celfyddydau perfformio cenedlaethol. Mari Hwyr! yw ein sioe fwyaf uchelgeisiol ac adnabyddus hyd yn hyn.

'Mae'r berthynas ydw i wedi'i meithrin gyda’r Dyn Gwyrdd wedi bod yn un barhaus ac ystyrlon. Mae lefel y rhyddid a'r gefnogaeth artistig yn hynod brin a gwerthfawr. Mae eu cefnogaeth wedi agor drysau, wedi creu cysylltiadau am oes, ac wedi fy helpu i ddeall yn well pwy ydw i fel artist. Mae'r cyfleoedd a'r gefnogaeth ydw i wedi'u derbyn wedi caniatáu imi ddatblygu fy nghelfyddyd, creu gwaith newydd a rhannu hyn gyda chynulleidfa ehangach sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i Gymru. Fel artist o Gymru, mae cyfleoedd fel y rhain i lwyfannu eich gweledigaeth artistig a'ch llais yn eithriadol o brin.' Osian Meilir
-
Cyfleoedd i Artistiaid
Bwrsariaeth Celfyddydau Awyr Agored y Pedair Gwlad
GALWAD CYMRU
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:
Hanner nos, dydd Iau, 17 Rhagfyr 2026
Mae Prosiect Bwrsariaeth y Pedair Gwlad yn cynnig bwrsariaeth a chyfle i deithio gyda gwaith awyr agored newydd i artistiaid sy'n dod i'r amlwg a chwmnïau sydd â diddordeb mewn celfyddydau awyr agored.
Bydd bwrsariaethau yn cael eu dyfarnu i ymgeiswyr o Gymru, yr Alban, Lloegr ac Iwerddon.
Bydd y prosiect yn caniatáu i artistiaid gael eu mentora trwy greu darnau celf awyr agored newydd, a fydd yn teithio i wyliau ym mhob un o'r pedair gwlad yn ystod haf 2027.
Cynnig Bwrsariaeth Celfyddydau Awyr Agored y Pedair Gwlad yw:
-
cyllideb o £5000 ar gyfer creu'r darn o waith
-
ffi o £150 y dydd y pen ar gyfer diwrnod perfformio (tua 8 diwrnod perfformio dros y pedair gŵyl)
-
mentora proffesiynol gan y pedair gŵyl
-
cwrs preswyl yn yr Alban yng Ngwanwyn 2027
-
darperir trefniadau teithio, llety a lwfansau dyddiol (neu gyfwerth) ar gyfer y cwrs preswyl a'r daith berfformio.
-
gofod ymarfer a chreu pan fo'n bosibl
Y pedair gŵyl yw:
-
Gŵyl Surge Glasgow, yr Alban, mewn partneriaeth ag Articulation
-
BD: Festival Bradford, Lloegr, mewn partneriaeth â Bradford Culture Company
-
Spraoi International Street Arts Festival Waterford, Iwerddon, mewn partneriaeth ag ISACS
-
Gŵyl y Dyn Gwyrdd Cymru, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd
Ar gyfer pwy mae hyn:
Mae hwn yn gyfle i wneuthurwyr perfformiadau a chwmnïau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru ac nad oes ganddynt gorff mawr o waith awyr agored proffesiynol blaenorol. Croesewir cydweithrediadau newydd lle mae un neu fwy o'r artistiaid yn brofiadol.
Er nad oes angen i chi fod wedi gwneud gwaith awyr agored o'r blaen, rydym yn disgwyl i ymgeiswyr gael profiad o greu perfformiadau ar gyfer cynulleidfaoedd byw.
Os nad ydych yn sicr a ydych yn gymwys, cysylltwch â zoe@greenman.net
Gofynion:
-
Cyflwyno syniad ar gyfer darn perfformio celfyddydol awyr agored newydd ar raddfa fach; statig, gosodiad neu grwydrol.
-
Mae angen i'r darn fod ar gyfer un/dau/tri artist teithiol (rhaid i'r ymgeisydd gael cadarnhad gan bob artist cyn gwneud cais);
-
Mae’n rhaid i faint y darn fod yn hwylus ar gyfer ei gludo.
-
Mae angen i'r darn fod yn addas ar gyfer ei berfformio neu ei gyflwyno mewn mannau trefol a mannau gwyrdd mewn caeau.
-
Mae angen i'r artistiaid fod ar gael ar gyfer y cyfnod preswyl yn yr Alban rhwng 28 Chwefror a 4 Mawrth 2027.
-
Mae angen i'r artistiaid fod ar gael ar gyfer dyddiadau'r pedair gŵyl:
-
16-18 Gorffennaf 2027: Gŵyl Surge, Glasgow, yr Alban
-
24-25 Gorffennaf 2027: Gŵyl Bradford, Bradford, Lloegr
-
30 Gorffennaf – 1 Awst 2027: Gŵyl Spraoi, Waterford, Iwerddon
-
19 – 22 Awst 2027: Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Aberhonddu, Cymru
-
-
Rhaid i’r artistiaid hefyd fod ar gael ar gyfer nifer penodol o ddyddiau mentora yn ystod yr wythnos rhwng mis Mawrth a Gorffennaf 2027 (union ddyddiadau i’w cytuno)
-
Rhaid i’r artistiaid allu teithio’n rhydd rhwng y DU ac Iwerddon.
-
Sylwer: yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd bydd gofyn i’r artistiaid wersylla
Mae Prosiect Bwrsariaeth y Pedair Gwlad yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant. Rydym yn annog ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a gallu.
Sylwer bod maint a chyrhaeddiad y prosiect hwn yn dibynnu ar ganlyniadau cyllido penodol.
Er mwyn ymgeisio:
E-bostiwch eich cynnig (tua 500 o eiriau) ac un bio byr ar gyfer pob perfformiwr/cydweithiwr (tua 100 gair yr un), mewn un ddogfen i zoe@greenman.net gyda "Cais Pedair Gwlad 2027"/“Four Nations 2027 application” fel pwnc yr e-bost
Gallwch hefyd anfon 1 ddogfen ategol gyda delweddau/bwrdd naws/dolenni i waith blaenorol ac ati os yw hyn yn eich helpu i esbonio eich syniad – ond nid yw hyn yn hanfodol. Os hoffech gael sgwrs cyn gwneud cais, cysylltwch â zoe@greenman.net o leiaf wythnos cyn y dyddiad cau.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar ddydd Iau, 17 Rhagfyr 2026
Bydd penderfyniadau yn cael eu gwneud a’u rhannu erbyn dechrau mis Ionawr 2027
Os ydych yn gwneud cais o un o’r cenhedloedd eraill, anfonwch eich cynnig drwy e-bost at:
Os ydych yn byw yn Lloegr, cysylltwch â BPH @ hello@bdproducinghub.co.uk
Os ydych yn byw yn yr Alban, cysylltwch ag Alan Richardson o @ alan@surge.scot
Os ydych yn byw yn Iwerddon, cysylltwch â Gŵyl Spraoi @ nest@spraoi.com
-