» Celfyddydau Perfformio «
Mae Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd yn gosod artistiaid talentog o Gymru ar lwyfan y byd. Ein rhaglen Datblygu'r Celfyddydau Perfformio yw'r platfform blaenllaw ar gyfer celfyddydau awyr agored Cymru, gan ddefnyddio’r Dyn Gwyrdd fel man lansio proffil uchel i ddatblygu ymarfer artistiaid fel eu bod yn cyrraedd cynulleidfaoedd byd-eang.
2,654+
O berfformwyr wedi’u cefnogi ers 2014
-
Rhaglen y Celfyddydau Perfformio
Mae’r Celfyddydau Perfformio yn ymwneud â chefnogi sector celfyddydau awyr agored Cymru ac yn defnyddio cyrhaeddiad rhyngwladol y Dyn Gwyrdd fel sbardun i artistiaid ddatblygu cynulleidfaoedd newydd a rhoi cynnig ar syniadau newydd, gyda chefnogaeth arbenigedd technegol a chynhyrchu helaeth tîm Gŵyl y Dyn Gwyrdd. Bellach mae'n un o'r dyddiadau allweddol yng nghalendr teithiol cenedlaethol yr Haf. Gyda strategaeth ryngwladol yn cael ei datblygu, rydym yn cysylltu artistiaid o Gymru â marchnadoedd newydd ar gyfer teithio a chyflwyno gwaith rhyngwladol na welwyd mo’i debyg yng Nghymru o'r blaen.
Rydym yn cynnig comisiynau, gofod arbrofi ar gyfer syniadau newydd a chefnogaeth ymarferol, ac rydym yn cefnogi popeth - o gwmnïau syrcas sy'n dod i'r amlwg i enwau adnabyddus fel Theatr Genedlaethol Cymru, Ballet Cymru a Theatr Hijinx wrth iddynt arbrofi gyda ffurf a chyrhaeddiad. Rydym yn hyrwyddo uchelgais, ansawdd cynhyrchu a risg greadigol.
Drwy gynnal perthynas hirdymor gydag artistiaid rydym yn cynnig:
-
Cymorth technegol arbenigol a mynediad i seilwaith cynhyrchu
-
Cyfleoedd mentora a dysgu gan gymheiriaid
-
Cyllideb, lleoliad a chyrhaeddiad sylweddol at gynulleidfaoedd
-
Rhwydwaith gyfnewid ryngwladol
-
Gweithdy a thrafodaeth panel a arweinir gan artistiaid
-
-
Rhaglen Gyfnewid Fyd-eang y Dyn Gwyrdd
Yn 2022, fe wnaethom lansio Rhaglen Gyfnewid Fyd-eang y Dyn Gwyrdd i fanteisio ar gyrhaeddiad rhyngwladol ac enw da'r ŵyl i:
-
Hyrwyddo artistiaid a diwylliant Cymru yn fyd-eang
-
Sefydlu partneriaethau cyd-gomisiynu a theithio ar gyfer artistiaid o Gymru;
-
Estyn gwahoddiad i artistiaid a rhwydweithiau rhyngwladol i Gymru
-
Sefydlu Cymru fel cystadleuydd tra chymwys yn y dirwedd ddiwylliannol ryngwladol.
Mae Rhaglen Gyfnewid Fyd-eang y Dyn Gwyrdd wedi bod yn allweddol wrth ddyrchafu creadigrwydd a diwylliant Cymru ar lwyfan y byd. Mae'r rhaglen wedi sefydlu cysylltiadau fel bod gwaith o Gymru yn teithio mewn gwledydd gan gynnwys Iwerddon, yr Alban, Lloegr, Sbaen, Ffrainc ac Awstralia.
Mae'r rhaglen yn croesawu sefydliadau ac ymarferwyr celfyddydol rhyngwladol i Gymru, gan ganolbwyntio ar yr UE a rhanbarthau sy'n rhannu treftadaeth ieithyddol frodorol Cymru. Datblygwyd partneriaethau cryf gyda chyrff diwylliannol yn Iwerddon, yr Alban, Gwlad y Basg, Catalwnia, ac yn fwy diweddar yn Fflandrys a Llydaw; gan gysylltu rhwydweithiau cenedlaethol a rhyngwladol fel Articulture, Outdoor Arts UK, Four Nations, ISACS, Surge, +Culture, FiraTàrrega, Catalan Arts, Circostrada, Zomer Van Antwerp, Circuscentrum ymhlith eraill
-
-
Ffeithiau Allweddol
-
2,654+ o artistiaid o Gymru wedi’u cefnogi ers 2014
-
118,750+ o unigolion wedi cael eu cyrraedd mewn perfformiadau byw mewn 10 mlynedd
-
353+ o berfformwyr creadigol o Gymru wedi cysylltu’n rhyngwladol
-
90+ o gynrychiolwyr rhyngwladol ers 2022
-
312+ o berfformiadau byw
-
63% wedi’u harwain gan ferched
-
42% LGBTQIA+
-
37% dan arweiniad pobl ag anableddau
-
19 act rhyngwladol ers 2022
-
-
Astudiaeth Achos - Osian Meilir
Mae Osian Meilir yn berfformiwr, yn grëwr dawns ac yn artist symudiadau o Gymru. Yn 2021 creodd ei gynhyrchiad maint canolig cyntaf, Qwerin, fel cyfarwyddwr a choreograffydd, a chomisiynwyd y gwaith gan Articulture Wales ac yna cafodd ei ddatblygu ymhellach yn gynhyrchiad ar raddfa lawn gyda chefnogaeth gan Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd. Cafodd Qwerin ei gyflwyno yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd i filoedd mewn cynulleidfaoedd byw ac ers hynny mae wedi teithio’n rhyngwladol.
Mae Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd wedi chwarae rhan ganolog yn nhaith artistig Meilir. Yn 2024, fe wnaethom gyd-gomisiynu eu darn dawns newydd ar raddfa fach Mari Ha!, a'r flwyddyn ganlynol cefnogwyd ei ddatblygiad yn Mari Hwyr! - gwaith mwyaf uchelgeisiol Osian Meilir hyd yma. Roedd y cynhyrchiad llawn hwn yn nodi eu cydweithrediad cyntaf gydag artistiaid syrcas a galluogi creu sgôr wreiddiol gyda chyfansoddwr o Gymru. Daeth hefyd â thîm creadigol cwbl Gymreig at ei gilydd, gan feithrin datblygu sgiliau a chydweithio trawsddisgyblaethol o fewn y sector celfyddydau perfformio cenedlaethol. Mari Hwyr! yw ein sioe fwyaf uchelgeisiol ac adnabyddus hyd yn hyn.

'Mae'r berthynas ydw i wedi'i meithrin gyda’r Dyn Gwyrdd wedi bod yn un barhaus ac ystyrlon. Mae lefel y rhyddid a'r gefnogaeth artistig yn hynod brin a gwerthfawr. Mae eu cefnogaeth wedi agor drysau, wedi creu cysylltiadau am oes, ac wedi fy helpu i ddeall yn well pwy ydw i fel artist. Mae'r cyfleoedd a'r gefnogaeth ydw i wedi'u derbyn wedi caniatáu imi ddatblygu fy nghelfyddyd, creu gwaith newydd a rhannu hyn gyda chynulleidfa ehangach sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i Gymru. Fel artist o Gymru, mae cyfleoedd fel y rhain i lwyfannu eich gweledigaeth artistig a'ch llais yn eithriadol o brin.' Osian Meilir
-
Cyfleoedd i Artistiaid
Bwrsariaeth Celfyddydau Awyr Agored y Pedair Gwlad
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Hanner nos, dydd Sul, 1 Chwefror 2026
Mae Prosiect Bwrsariaeth y Pedair Gwlad yn cynnig bwrsariaethau ar gyfer gwaith awyr agored newydd i artistiaid a chwmnïau sy'n dod i'r amlwg sy’n ymddiddori mewn celfyddydau awyr agored. Bydd bwrsariaethau’n cael eu dyfarnu i ymgeiswyr o Gymru, Lloegr, yr Alban ac Iwerddon. Bydd y prosiect yn caniatáu i artistiaid sydd ar ddechrau eu gyrfa gael eu mentora trwy greu gweithiau celf awyr agored newydd, a fydd yn cael teithio i wyliau ym mhob un o'r pedair gwlad yn ystod haf 2026:
Dyn Gwyrdd (Cymru, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd)
Gŵyl Surge(Glasgow, mewn partneriaeth ag Articulation),
Gŵyl BD (Bradford, mewn partneriaeth â Bradford Producing Hub) – yn ddibynnol ar gyllid
Gŵyl Spraoi (Waterford, Iwerddon mewn partneriaeth ag ISACS)
Bydd yr artistiaid/cwmnïau a ddewisir yn derbyn cyllideb o £5000/€5500 ar gyfer creu'r gwaith a £150/€170 y dydd y pen ar gyfer diwrnodau perfformio, mentora proffesiynol gan y gwyliau a phob un o'r rhwydweithiau partneriaeth, yn ogystal â chwrs preswyl tri diwrnod yn Aberhonddu, Cymru ym mis Mawrth 2026. Darperir cludiant, llety a lwfans dyddiol (neu gyfwerth) ar gyfer y cwrs preswyl a’r daith berfformio.
Gofynion:
-
Cyflwyno syniad ar gyfer gwaith celf awyr agored newydd ar raddfa fach, statig neu grwydrol.
-
Mae angen i'r gwaith fod ar gyfer unigolyn neu ddau artist teithiol (rhaid i bob artist gael ei gadarnhau gan yr ymgeisydd cyn gwneud cais);
-
Mae angen i'r gwaith fod o faint sy'n hwylus ei gludo.
-
Mae angen i'r gwaith fod yn addas ar gyfer ei berfformio neu ei arddangos mewn mannau trefol ac mewn caeau gwyrdd.
-
Mae angen i'r artistiaid fod ar gael i fynychu’r cwrs preswyl yn Aberhonddu rhwng 8 ac 11 Mawrth 2026
-
Rhaid i’r artistiaid hefyd fod ar gael ar gyfer nifer penodol o ddyddiadau mentora yn ystod yr wythnos rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2026 (yr union ddyddiadau i'w cytuno)
-
A bod ar gael ar ddyddiadau'r pedair gŵyl:
-
23 – 24 Gorffennaf 2026 (Gŵyl BD, mewn partneriaeth â Bradford Producing Hub England i'w gadarnhau)
-
25 – 26 Gorffennaf 2026 (Gŵyl Surge, Yr Alban)
-
31 Gorffennaf- 2 Awst (Gŵyl Spraoi, Iwerddon)
- 19 – 23 Awst 2026 (Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Cymru)
-
Byddwn yn cynnig:
-
Cwrs preswyl strwythuredig yn Aberhonddu ynghyd â mentora proffesiynol gan y Dyn Gwyrdd, BD, Surge a Spraoi ym meysydd creu, cynhyrchu, marchnata a gwneud ffilmiau ‘guerrilla’:
-
Bwrsariaeth o £5000/€5500
-
Teithio, llety, lwfans dyddiol, a ffi o £150/€170 y dydd fesul artist/ fesul diwrnod perfformio ym mhob gŵyl
-
Gofod ymarfer a chreu lle bo'n bosibl
Mae Prosiect Bwrsariaeth Pedair Gwlad yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant. Rydym yn annog ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a gallu.
Sylwer bod maint a chyrhaeddiad y prosiect hwn yn dibynnu ar ganlyniadau cyllido penodol.
Er mwyn gwneud cais:
E-bostiwch eich cynnig (uchafswm o 500 gair) ac un bio byr ar gyfer pob perfformiwr/cydweithiwr (uchafswm o 100 gair yr un), mewn un ddogfen.
Os ydych yn byw yng Nghymru, cysylltwch â Zoe Munn o’r Dyn Gwyrdd zoe@greenman.net
Os ydych yn byw yn Lloegr, cysylltwch â BPH hello@bdproducinghub.co.uk
Os ydych yn byw yn yr Alban, cysylltwch ag Alan Richardson o alan@surge.scot
Os ydych yn byw yn Iwerddon, cysylltwch â Gŵyl Spraoi nest@spraoi.com
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos, ddydd Sul, 1 Chwefror 2026.
Bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud erbyn dydd Llun, 9 Chwefror 2026.
-